63. Yr Athro Lily Newton
Dr Jessica Adams
Daeth Lily Newton i Aberystwyth ym 1928 gan gymryd swydd fel darlithydd mewn Botaneg, gan ddod yn bennaeth adran benywaidd cyntaf y brifysgol fel Athro a Chadeirydd Botaneg ym 1930.
Mae hi'n enwog am ei A Handbook of the British Seaweeds a gyhoeddwyd yn 1931, a ddefnyddiwyd yn helaeth tan yr 1980au.
Tra yn Aberystwyth bu hefyd yn gweithio ar ddefnydd diwydiannol gwymon, yn enwedig carageenin (a ddefnyddir mewn hufen iâ a bwydydd eraill) a hefyd agar (ar gyfer tyfu bacteria pathogenig ac yn hanfodol i wasanaethau iechyd cyhoeddus).
Ymgymerodd hefyd â gwaith ymchwil ar lygredd plwm a sinc yn Afon Rheidol, a achoswyd gan waith mwyngloddio yn y 19eg ganrif.
Diolch i'w chyfraniadau mae'r afon, a oedd unwaith yn amddifad o'r mwyafrif o blanhigion ac anifeiliaid, wedi gwella.
Yn ddiweddarach astudiodd effeithiau argaeau ar fioamrywiaeth afonydd (yn enwedig afonydd Rheidol, Ystwyth a Mawddach). Daeth yr Athro Newton yn Is-Bennaeth benywaidd cyntaf Aberystwyth ym 1951.
Mwy o wybodaeth
Dr Jessica Adams