11. Ysgrifennu Covid Hir
Dr Jacqueline Yallop
Y prosiect hwn yw cam cyntaf ymchwiliad i sut y gallai ysgrifennu creadigol effeithio ar reolaeth Covid hir.
Mae’r prosiect yn un o nifer, o fewn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng creadigrwydd a lles.
Sut gallai gweithgareddau ysgrifennu creadigol effeithio ar brofiad person o Covid hir? Nod ein hastudiaeth ragarweiniol yw ateb y cwestiwn hwn trwy wahodd grwpiau bach o gleifion Covid hir i fynychu gweithdai ysgrifennu a ddyluniwyd yn arbennig. Yna byddwn yn gwerthuso effeithiau adroddedig y gweithdai, ac yn anelu at sefydlu prosiect tymor hwy, gyda chysylltiadau ag ymarferwyr gofal iechyd ledled Cymru.
Newyddion: Prosiect ysgrifennu yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o Covid hir
Trydar: @jacqyallop
Mwy o wybodaeth
Dr Jacqueline Yallop
- E-bost: jay4@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Dr Jacqueline Yallop
- Proffil Porth Ymchwil - Dr Jacqueline Yallop