119. Robotiaid ar gyfer y Byd Go Iawn
Dr Helen Miles, Dr Fred Labrosse, Dr Patricia Shaw
Mae gan grŵp ymchwil Roboteg Deallus (IRG) Prifysgol Aberystwyth arbenigedd sylweddol mewn cynhyrchu systemau caledwedd a meddalwedd integredig ar gyfer cymwysiadau byd go iawn sy’n cael effaith sylweddol, gan gynnwys yn y diwydiant gofod.
Mae aelodau'r IRG yn gyfrifol am ddatblygu sawl system allweddol o'r rhaglen ExoMars a darparu data ar gyfer partneriaid yn y diwydiant. At hynny, maent wedi bod yn ymgysylltu'n frwd â'r cyhoedd.
Trwy weithgareddau amrywiol sy'n apelio at ystod eang o gynulleidfaoedd ynghyd â'r Clwb Roboteg arobryn, maent wedi rhyngweithio â miloedd o bobl, gan ysbrydoli pobl ifanc a newid safbwyntiau ar ddyfodol a photensial roboteg.
Newyddion: Llwyddiant i lun o’r iCub yn dysgu wrth chwarae
Mwy o wybodaeth
Dr Helen Miles
Dr Fred Labrosse
Dr Patricia Shaw