29. Y Geiriadur Eingl-Normaneg (GEN)
Dr Geert De Wilde, Dr Heather Pagan
Mae ein tîm o ymchwilwyr yn gweithio ar adolygiad parhaus o eiriadur Eingl-Normaneg – yr iaith Ffrangeg fel y’i defnyddiwyd yn Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnod canoloesol (1066-1500).
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd Eingl-Normaneg ddylanwad aruthrol ar eirfa Saesneg hefyd, ac o’r herwydd mae canfyddiadau tîm GEN yn uniongyrchol berthnasol i’r astudiaeth o hanes yr iaith Saesneg. Amcangyfrifwyd bod cymaint â 50% o’r mae stoc geiriau o Saesneg Modern yn deillio o Eingl-Normaneg, gan gynnwys geiriau pob dydd fel 'cig eidion', 'blodyn', 'berwi, 'canol dydd', 'presennol' neu 'craig'.
Mae GEN yn adnodd ar-lein hygyrch. Un o’r testunau a ddadansoddwyd ar gyfer creu’r geiriadur yw arolwg 1320 o Gastell Aberystwyth – y mae ei adfeilion yn parhau i fod yn un o brif nodweddion Aberystwyth heddiw.
Mae’r ddogfen hon o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn nodi bod angen atgyweirio to ystafelloedd preifat y brenin a’r frenhines, a’r dramwyfa sy’n eu cysylltu (‘la chaumbre le roi et la chaumbre la reyne e le alé parentre soient refaites’) a bod y bont i'r beili allanol, wedi pydru, wedi dymchwel, ac angen ei hailadeiladu ar frys ('le pount del forein baillie q'est tot descheu par poresture covient q'il soit fait en haste').
Mwy o wybodaeth
Dr Geert De Wilde
Dr Heather Pagan