43. Pris Cydwybod - T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr
Dr Bleddyn Huws
Ymdriniaeth â’r amgylchiadau a arweiniodd at ymddiswyddiad T. H. Parry-Williams yn 1919-1920 pan dreuliodd y flwyddyn academaidd honno yn fyfyriwr gwyddonol gyda’r bwriad o fynd yn feddyg neu’n llawfeddyg.
Adeiladir ar y deunydd sydd wedi ymddangos eisoes gennyf ar ffurf erthyglau i greu trafodaeth fwy estynedig a manylach, a chynhwysir deunydd cwbl newydd na chafodd ei drafod gan neb o’r blaen ac nas cyhoeddwyd yn unlle cyn hyn.
Bydd gwybodaeth newydd ynddi am yrfa filwrol ei frodyr ac am ei ddiddordeb ysol mewn meddygaeth, ac fel yr adlewyrchir hynny yn ei weithiau llenyddol.
Newyddion: Pris Cydwybod: T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr
Mwy o wybodaeth
Dr Bleddyn Huws