67. Kindertransport: Stori William Dienemen
Dr Andrea Hammel
Mae Dr Andrea Hammel wedi ymchwilio i ffoaduriaid a ffodd rhag Sosialaeth Genedlaethol i’r DU am dros ugain mlynedd, gan ganolbwyntio’n fwyaf diweddar ar blant sy’n ffoaduriaid ac ar ffoaduriaid sy’n dod o hyd i loches yng Nghymru.
Ymchwiliodd i fywyd William Dieneman a oedd yn hanu o deulu Iddewig a bu'n dyst i'r Pogrom Tachwedd ym Merlin ym 1938 yn wyth oed yn unig. Arestiwyd ei dad gan y Gestapo ac ymosodwyd arno.
Rhoddwyd William ar Kindertransport allan o’r Almaen ym mis Ionawr 1939 gyda’i chwaer hŷn ond ni chaniatawyd i’w rhieni fynd gyda nhw gan fod gan lywodraeth Prydain reolau llym nad oedd yn caniatáu i’r rhan fwyaf o oedolion sy’n ffoaduriaid ddod i mewn.
Gwahanwyd William a'i chwaer, a buont yn lletya mewn gwahanol deuluoedd maeth a chafodd William le am ddim mewn ysgol breswyl.
Dihangodd eu rhieni hefyd ychydig cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd ond nid oedd y teulu byth yn gallu byw gyda'i gilydd eto.
Astudiodd William Ieithoedd a hyfforddodd fel llyfrgellydd. Daeth yn Llyfrgellydd y Brifysgol yn Aberystwyth a bu'n gweithio yn y Coleg hyd ei ymddeoliad.
Ymchwil o Aberystwyth yn rhan o arddangosfa Kindertransport ym Merlin
Mwy o wybodaeth
Dr Andrea Hammel