111. Pharmhemp
Dr Ana Winters, Alan Gay
Gallai cywarch ddod yn nodwedd fwy cyffredin o gefn gwlad, ein diet a’n bywyd bob dydd.
Nod y prosiect cydweithredol dwy flynedd rhwng Prifysgol Aberystwyth a diwydiant oedd gwneud cywarch yn gnwd mwy gwerthfawr drwy gynyddu faint o gyfansoddion a ddefnyddir i wneud amrywiaeth o gynhyrchion bwyd, iechyd a fferyllol.
Mae cywarch yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn ffabrigau gwrthsefyll tân arbenigol, matresi, deunyddiau adeiladu, inswleiddio, sarn anifeiliaid a biodanwydd. Yn ddeunydd naturiol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, fe'i gwelir fel cnwd a all ddisodli cynhyrchion petrocemegol. Mae astudiaethau pellach ar gywarch yn parhau.
Mwy o wybodaeth
Dr Ana Winters