Grwpiau Llywio

Mae pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yng ngrwpiau llywio Rhwydwaith Arloesi Cymru. Nod y grwpiau yw cefnogi cydweithio ar ymchwil ac arloesi gan ganolbwyntio ar gryfderau craidd.  O fewn y meysydd hyn bydd grwpiau llywio’r Rhwydwaith yn mynd ati i ddod o hyd i gyfleoedd i ymdrin, mewn partneriaeth, â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae’r grŵp llywio Iechyd a Lles yn canolbwyntio ar ddulliau amlddisgyblaethol wrth ymdrin â heriau iechyd a lles.  Mae’n dod ag arbenigaeth ynghyd o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar edrych mewn ffordd effeithiol ar gyfleoedd cydweithrediadol a sicrhau cydlynu gweithredol rhwng y prifysgolion yng Nghymru ar faterion ymchwil ac arloesi yn ymwneud ag Iechyd a Lles. 

Mae’r grŵp llywio hefyd yn cynnwys arsylwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Grŵp Llywio Net Sero a Datgarboneiddio

Cynrychiolydd Prifysgol Aberystwyth – Yr Athro Jon Moorby

Mae grŵp llywio Net Sero a Datgarboneiddio Rhwydwaith Arloesi Cymru yn dod ag arbenigaeth ynghyd o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru gan gynnwys meysydd megis hydrogen, diwydiant a dur, niwclear, y gwyddorau cymdeithasol, yr economi gylchol, da byw a ffermio, a chynllunio adeiladau a chynllunio trefol yn y dyfodol.

Grŵp Llywio Iechyd a Lles

Cynrychiolydd Prifysgol Aberystwyth - Dr Amanda Lloyd

Mae’r grŵp llywio Iechyd a Lles yn dod ag arbenigaeth ynghyd o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar edrych mewn ffordd effeithiol ar gyfleoedd cydweithrediadol a sicrhau cydlynu gweithredol rhwng y prifysgolion yng Nghymru ar faterion ymchwil ac arloesi yn ymwneud ag Iechyd a Lles.

Cydweithio Academaidd a Phlismona Cymru gyfan

Cynrychiolydd Prifysgol Aberystwyth - Dr Gwyn Griffith

Cydweithredu i hwyluso cysylltiad effeithiol rhwng yr heddluoedd a’r prifysgolion yng Nghymru i ymgymryd â gwaith ymchwil a fydd yn gwella bywydau pobl yng Nghymru.

Cyngrhair y Celfyddydau a’r Dyniaethau yng Nghymru

Cynrychiolwyr Prifysgol Aberystwyth – Yr Athro Anwen Jones a Dr Neal Alexander

Mae Cyngrhair y Celfyddydau a’r Dyniaethau yng Nghymru yn cynnig cyfle drwy Gymru gyfan i feithrin partneriaethau dyfnach, mwy cadarn, gan ganolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil ac arloesi yn y celfyddydau a’r dyniaethau mewn addysg uwch.

Grŵp Llywio Rhwydwaith Technegwyr

Cynrychiolwyr Prifysgol Aberystwyth - Susan Girdwood a Hilary Worgan

Mae Rhwydwaith Technegwyr yn canolbwyntio ar alluogi arfer gorau a chydweithio i gryfhau’r isadeiledd ymchwil yng Nghymru ynghyd â darparu fforwm a chyfle i annog cydweithio rhwng sefydliadau a rhannu sgiliau.

Grŵp Llywio Deunyddiau a Gweithgynhyrchu

Cynrychiolwyr Prifysgol Aberystwyth - Yr Athro Andy Evans a’r Athro Nigel Copner

Mae’r grŵp llywio Deunyddiau a Gweithgynhyrchu yn dod ag arbenigaeth ynghyd o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar edrych mewn ffordd effeithiol ar gyfleoedd cydweithrediadol a sicrhau cydlynu gweithredol rhwng y prifysgolion yng Nghymru ar faterion ymchwil ac arloesi yn ymwneud â Deunydd a Gweithgynhyrchu.