Chwefror 2024

Cymru’n dangos ymrwymiad i arloesedd a chydweithio yn Ewrop

Roedd Prifysgol Aberystwyth yn rhan o arddangosfa a gynhaliwyd ym Mrwsel ym mis Chwefror 2024 i amlygu gwaith ymchwil ac arloesedd gan sefydliadau addysg uwch Cymru.

Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel fel rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi Brwsel 2024 Llywodraeth Cymru, gyda chymorth rhaglen Cymru Fyd-eang (a ariennir gan Taith) a’r nod oedd tynnu sylw at gryfder ac ehangder yr ymchwil ac arloesedd sy’n digwydd ym mhrifysgolion Cymru.

Roedd ymchwil gan wyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth sy’n helpu i gyrraedd targedau sero net ymhlith arddangosfeydd y digwyddiad wnaeth ddwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol, arweinwyr prifysgol a gwneuthurwyr polisi o Gymru a’r UE.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Prifysgolion Cymru.

Hydref 2023

Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymchwil i Weinidogion yn Llundain

Cafodd gwaith gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth sylw mewn digwyddiad gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Tachwedd 2023 yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi Cymru. 

Roedd Dr Kerrie Farrar yno i sôn am yr ymchwil ar Miscanthus sy’n cael ei wneud yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Dangosodd yr Athro Richard Lucas o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear sut mae prosiect ‘Daear Byw’ yn gallu mapio a monitro newidiadau yn y tirlun yng Nghymru ac ar draws y byd. 

Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru oedd wedi cynnal y digwyddiad yn Lancaster House a oedd yn tynnu sylw at gryfder ac ehangder ymchwil prifysgolion Cymru, a gallu’r ymchwil i sicrhau manteision amlwg i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. 

Roedd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 20 stondin arddangos.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen newyddion y Brifysgol a thudalen Prifysgolion Cymru.