Hybiau Ymchwil
Mae gan y Brifysgol dair prif hwb ymchwil sy’n cysylltu ymchwilwyr ac ymarferwyr o ddisgyblaethau amrywiol sy’n rhannu nod cyffredin.
Amcan yr Hybiau Ymchwil yw darparu ffocws ar gyfer mwy o gyfnewid gwybodaeth rhwng academyddion o wahanol feysydd pwnc, meithrin cydweithio ar heriau cyfoes cymhleth ac ysgogi arloesedd gwyddonol.
-
Y Ganolfan Dyfodol Gwledig
Mae’r Hwb yn dod ag arbenigeddau amrywiol sy’n rhychwantu’r gwyddorau naturiol, y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau ynghyd er mwyn mynd i’r afael a’r heriau a fydd yn wynebu ardaloedd gwledig.
Darganfod mwy -
Y Bydoedd A Fynnwn
Wedi'i leoli o fewn Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, mae Hwb Y Bydoedd A Fynnwn, yn darparu cymorth gweinyddol ac allgymorth i ymchwilwyr a chanolfannau ymchwil.
Darganfod mwy -
Ein Byd wedi'i Alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial
Mae’r Hwb yn dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr ar draws disgyblaethau at ei gilydd i osod agendâu newydd ar gyfer hyrwyddo ac ymchwilio i Ddeallusrwydd Artiffisial.
Darganfod mwy