Cyfleoedd Deillio allan a Deillio i mewn i Fusnesau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi staff sy'n dymuno datblygu eu hallbynnau ymchwil i mewn i fentrau masnachol. Mae'r Brifysgol yn annog entrepreneuriaid a sefydlu busnesau newydd fel modd o greu llwybr i'r farchnad ar gyfer eiddo deallusol y Brifysgol oherwydd y manteision sylweddol i'r Brifysgol, ei staff, i Gymru a thu hwnt.

Mae Ymchwil, Busness ac Arloesi yn gweithio gyda staff academaidd i:

  • Nodi eiddo deallusol gwerthfawr a dylanwadol
  • Asesu potensial masnachol cynnyrch neu wasanaeth y dyfodol
  • Cefnogi datblygiad cynlluniau busnes cadarn
  • Cynorthwyo gyda chodi arian a rhwydweithio

Mae ein tîm Trosglwyddo Technoleg yn gweithio gyda Phanel Ymgynghorol Masnachol, sy'n cynnwys arbenigwyr o ddiwydiant a'r llywodraeth, i adolygu syniadau busnes a mentora staff tuag at gynllunio busnes cadarn a chodi arian.

 

Enghreifftiau o Gwmnïau Deillio allan Prifysgol Aberystwyth

Mae ARCITEKBio wedi datblygu datrysiad bio-weithgynhyrchu cadarn sy’n seiliedig ar furum sy’n trosi gwastraff amaethyddol fel gwellt gwenith a mwydion pren yn felysydd adnewyddadwy 100% gwerth uchel.

Mae ABER Instruments yn gwmni byd-eang llwyddiannus gyda phortffolio o systemau ardystiedig datblygedig sy’n parod ar gyfer gweithgynhyrchu eisoes yn cael eu defnyddio yn y diwydiannau Bragu, Biotechnoleg, Bioadnewyddadwy a Biodanwydd.

Mae Environment Systems yn ymgynghoriaeth sefydledig sydd ag enw gwerthfawr gan ddefnyddio ein harbenigedd cydnabyddedig mewn dadansoddi data – yn benodol geowybodeg ac arsylwi’r ddaear.

Innovis yw prif gyflenwr technolegau bridio defaid i ddiwydiant da byw y DU; cwmni ifanc, deinamig a blaengar sy'n frwd dros wneud gwahaniaeth.

Mae Natural Feeds & Fertilisers yn datblygu ac yn cyflenwi gwrtaith cynaliadwy a bwydydd anifeiliaid o darddiad olrheiniadwy, o ffynonellau naturiol gydag argymhellion wedi'u hategu gan dreialon ymchwil gwyddonol cadarn.

Mae PhytoQuest yn gwmni deillio allan sy'n arbenigo mewn darganfod cynnyrch naturiol. Mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu cynhwysion cosmetig bioactif, bwyd ac iechyd anifeiliaid o ansawdd wedi'i reoli

Mae SmartData yn gweithio ar draws ystod o ddiwydiannau, gan helpu cleientiaid trwy gyfuno mewnwelediad busnes trylwyr â dealltwriaeth o sut y bydd technoleg yn effeithio ar ddiwydiant a modelau busnes.

Gwybodaeth bellach:

I gael rhagor o wybodaeth am bolisi deillio allan Prifysgol Aberystwyth neu i drafod cyfleoedd deillio allan y gorffennol a'r dyfodol, cysylltwch â: cytundebau@aber.ac.uk.