Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Mae KTP yn rhaglen flaenllaw sy’n helpu busnesau i lwyddo drwy eu cysylltu ag adnoddau academaidd cyfoethog y Deyrnas Unedig. Mae hi’n bartneriaeth dair ffordd rhwng busnes sy’n chwilio am arbenigedd, prifysgol a myfyriwr ôl-radd sydd newydd gymhwyso – a elwir yn Gydymaith.
Trawsnewid eich busnes
- Gall unrhyw gwmni wneud cais
- Cewch fanteisio ar arbenigedd penodol a chael academydd gwybodus yn goruchwylio’r prosiect
- Bydd cydymaith yn gweithio’n benodol ar y prosiect
- Bydd arbenigedd y tîm academaidd yn dod â’u sgiliau eu hunain i’r prosiect
Arbenigedd academaidd
- Academydd penodedig yn goruchwylio’r gwaith
- Pŵer deallusol i arwain a chynghori’r Cydymaith pryd bynnag y bo angen
- Mynediad i offer cynnal profion yn y Brifysgol os oes angen
- Rhan hanfodol o’ch tîm a’ch prosiect
Cyllido eich prosiect
Gall eich prosiect bara rhwng 12 mis a 3 blynedd. Bydd KTP yn ariannu hyd at 75% o holl geisiadau trydydd sector. Mae KTP yn cynnig partneriaeth dair ffordd rhwng academydd, busnes a myfyriwr graddedig. Gan gydweithio i gyflawni prosiect strategol, mae’r bartneriaeth ddeinamig hon yn canolbwyntio ar rannu arbenigedd, profiad ac adnoddau er mwyn sicrhau newid, gwreiddio gwybodaeth a sicrhau twf. Mae hyn yn werth gwych, yn enwedig gan fod tystiolaeth yn dangos bod busnesau sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn tyfu ddwywaith yn gyflymach a bod ganddynt allforion uwch o gymharu â rhai nad ydynt yn arloesi.
Dysgu mwy
Helena O Sullivan, Swyddog Datblygu Busnes
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Dyddiadau Cau Pwysig
Beth yw’r manteision i gwmnïau?
Beth yw'r manteision i academyddion?
Pwy all gymryd rhan?
Cyfyngiadau
I weld prosiectau KTP blaenorol, gweler yr enghreifftiau isod.