Eiddo Deallusol a Thechnoleg

Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad dielw sy'n ceisio sbarduno arloesedd i'ch busnes trwy elwa ar dechnoleg ac eiddo deallusol y Brifysgol, hoffem glywed gennych. Cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd cydweithio trwy anfon e-bost atom: ttrstaff@aber.ac.uk

Mae Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad blaenllaw yn y DU sy'n adnabyddus am ei diwylliant ymchwil cryf ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys y gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a'r dyniaethau. O ymchwil amgylcheddol arloesol i ddatblygiadau arloesol mewn deallusrwydd artiffisial, mae technoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr Aberystwyth yn cael ei chefnogi, ei diogelu a'i harwain gan ein tîm masnacheiddio.

Technolegau sydd ar gael

Mae cyfleoedd ar gyfer cydweithio a thrwyddedu yn cwmpasu sbectrwm llawn ein harbenigedd ymchwil. Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cael mynediad at arloesiadau neu ffurfio partneriaethau ymchwil, gallwch archwilio rhai o'n technolegau sydd ar gael isod a chysylltu'n uniongyrchol drwy anfon e-bost at drbi@aber.ac.uk

Cyfansoddyn patentedig sy'n lleihau allyriadau methan mewn ffermio da byw cnoi cil

Ychwanegyn porthiant naturiol, wedi'i seilio ar blanhigion, sydd wedi dangos gostyngiad o hyd at 63% mewn allyriadau methan yn ystod profion labordy. Mae'n ddiogel, yn raddadwy, ac mae arwyddion cynnar yn awgrymu y gallai hybu perfformiad da byw. Mae hon yn dechnoleg amserol a phwysig o ystyried y pwysau ar amaethyddiaeth i ddadgarboneiddio a lleihau allyriadau methan.


Gwyliwch y fideo hwn i gwrdd â'r dyfeisiwr


Rydym yn croesawu ymholiadau. Cysylltwch â ni: drbi@aber.ac.uk