Cydweithrediad Ymchwil-Busnes Dŵr Cymru

Sut mae ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn helpu i sicrhau ansawdd dŵr yfed Cymru.

Mae ein hymchwilwyr bob amser yn meddwl sut y gall eu syniadau a'u dyfeisiadau effeithio ar bobl a chymdeithas. Yn y fideo hwn, mae Dr Amanda Clare o’n Hadran Gyfrifiadureg yn sôn am ei gwaith gyda Dŵr Cymru, lle mae’n defnyddio gwaith modelu data uwch i fonitro ansawdd dŵr yfed a rhoi rhybuddion cynnar am faterion posibl.

Mae’n un enghraifft yn unig o sut mae ymchwil academaidd yn mynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn. 

Yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, rydyn ni yma i’ch helpu chi i elwa o gydweithio â’n hymchwilwyr, ein harbenigedd a’n cyfleusterau sy’n arwain y byd. 

Anfonwch e-bost atom heddiw i gael gwybod sut y gallwn gefnogi eich busnes drbi@aber.ac.uk