Ymchwil Gydweithredol a Chytundebol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu busnesau a chyrff allanol sy'n ystyried gweithio gydag adrannau academaidd a grwpiau ymchwil penodol i wneud Ymchwil Cydweithredol, gan fanteisio ar wybodaeth ac adnoddau’r Brifysgol. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau Ymchwil dan Gontract wedi’u haddasu at anghenion y cwmnïau cleient.
Mae amrywiaeth o gynlluniau cefnogaeth ariannol ar gael i sefydliadau sy’n gweithio gyda phrifysgolion, a gall YBA gynnig cyngor am y ffynonellau ariannu sy'n bosib ar gyfer prosiectau o’r fath.
Mae yna sawl corff cyllido sy’n cynnig cymorth ariannol i gydweithio ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ewch i'n tudalen ariannu i'w gweld.
Os ydych yn Aelod o Staff Aberystwyth a bod gennych ddiddordeb mewn ymgymryd ag Ymchwil Contract neu Gydweithredol gyda phartner, cliciwch yma i ddysgu mwy am y broses PA neu cysylltwch â’r Tîm Datblygu Busnes.
Cydweithio gyda ni
Chris Heidt, Rheolwr Masnachol
I ddysgu mwy am ymchwil gydweithredol a chytundebol, cysylltwch â: