Gwasanaethau Ymgynghori

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod arbenigedd ar gael i gwmnïau cleient lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy gynnig gwasanaethau ymgynghori.

Mae llawer o fanteision i staff sy’n ymgymryd ag ymgynghoriaeth gan gynnwys:

  • meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat
  • darparu cyfrwng ar gyfer adborth i ymchwil ac addysgu
  • datblygiad personol

Os ydych yn Aelod o Staff Aberystwyth a bod rhywun wedi cysylltu â chi ynglŷn â darparu Gwasanaethau Ymgynghori, cliciwch yma i ddysgu mwy am broses PA.

Tysteb

“Mae ein profiad o weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi bod yn ardderchog”

“Roedd yr ymgynghorydd Dr Ben Roberts yn ardderchog, yn ddiwyd ac yn effeithlon yn y gwaith a wnaeth a rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr iawn”

Dr Graham Spelman, Cyd-sylfaenydd LimosAero