Mrs Catherine Beckham
Rheolwr Prosiect
Manylion Cyswllt
- Ebost: ccb11@aber.ac.uk
- Swyddfa: 12 Cefn Llan, Parc Gwyddoniaeth
- Ffôn: +44 (0) 1970 628690
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Catherine ag YBA ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny bu’n gweithio yn yr Adran Seicoleg fel Swyddog Cofrestrfa Academaidd.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Prif ddyletswyddau Catherine oedd delio â gweinyddiaeth academaidd myfyrwyr a oedd yn cynnwys Cofrestru, Amserlennu, Byrddau Arholi, Cymryd Cofnodion y Pwyllgor Dysgu ac Addysgu, trefnu paneli YAA a darparu cymorth i’r Academyddion o fewn yr adran.
Addysg a phrofiad gwaith
Astudiodd Catherine gradd mewn Hanes Celf fel myfyriwr aeddfed a graddiodd yn 2016. Mae wedi gweithio i’r Brifysgol ers 2007 pan ddechreuodd fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Undeb y Myfyrwyr, yna ar ôl iddi raddio cafodd ei chyflogi fel Gweinyddwr Panopto ar gyfer y Tîm E-ddysgu. Yn 2017 bu’n gweithio yn y Swyddfa Amserlenni, yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ac yna dechreuodd ym maes Seicoleg yn 2019 lle bu’n gweithio am dair blynedd.
Profiad a gwybodaeth
Mae Catherine yn dod â phrofiad cyfoethog o fuddsoddi mewn cyfalaf cymdeithasol trwy reoli prosiectau sector gwirfoddol, codi arian ar gyfer sefydliadau lleol ac annog dinasyddiaeth weithgar. Mae hi wedi helpu nifer o elusennau a sefydliadau lleol megis Gardd Gymunedol Penglais, HAUL – Celfyddyd mewn Iechyd, Oriel Nwy, Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Penglais, Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion ac Opera Aber.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Prif gyfrifoldebau Catherine yw rheoli portffolio o brosiectau ar draws yr adran sy’n cynnwys datblygu’r Ganolfan Ddeialog, Cenhadaeth Sifig Prifysgol Aber a chynorthwyo i greu polisi ar gyfer y tîm ymchwil ym maes Diwydrwydd Dyladwy.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Catherine yn mwynhau cael swydd sy’n chwarae i'w chryfderau o ran gallu gweithio fel rhan o dîm, gan ganiatáu iddi gyfrannu ei syniadau creadigol, rhoi’r rhyddid iddi weithio mewn ffordd hybrid a hefyd y cyfle i fuddsoddi yn ei datblygiad proffesiynol parhaus. Ar hyn o bryd mae hi'n astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol mewn Rheoli Prosiectau ac mae'r cyfle hwn yn dangos bod yr adran yn awyddus i fuddsoddi yn ei staff ac mae hyn, yn ei barn hi, yn galonogol iawn.