Dadmer rhewlifoedd Alaska yn gynt nag a dybiwyd
Delwedd Loeren o Faes Iâ Juneau Credyd: Delweddau Landsat drwy law Canolfan Hedfan Gofod NASA Goddard ac Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau
02 Gorffennaf 2024
Mae dadmer rhewlifoedd mewn maes iâ mawr yn Alaska wedi cyflymu a gallai gyrraedd pwynt di-droi'n-ôl yn gynt nag a dybiwyd yn flaenorol, yn ôl ymchwil newydd.
Canfu’r ymchwil, sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth, fod graddfa grebachu’r rhewlifoedd ar Faes Iâ Juneau, sy’n pontio’r ffin rhwng Alaska a British Columbia, Canada, wedi cynyddu’n aruthrol ers 2010.
Edrychodd y tîm, a oedd hefyd yn cynnwys prifysgolion yn y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau ac Ewrop, ar gofnodion yn mynd yn ôl i 1770 a nododd dri chyfnod penodol yn y modd y mae cyfaint y maes iâ wedi newid.
Maen nhw wedi darganfod bod graddfa grebachu’r rhewlifoedd yn gyson rhwng 1770 a 1979 gyda hyd at 1 cilometr sgwâr yn cael ei golli bob blwyddyn – roedd hyn wedi cynyddu i dros 3 cilometr sgwâr y flwyddyn yn y cyfnod 1979 i 2010.
Rhwng 2010 a 2020 dyblodd graddfa grebachu’r iâ’n sydyn, gan gyrraedd bron i 6 cilomedr sgwâr y flwyddyn.
Mae casgliadau’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn Nature Communications, yn dangos bod y crebachu yn ardal y rhewlif bum gwaith yn gyflymach rhwng 2015 a 2019 na’r cyfnod 1948-1979.
Yn gyffredinol, collodd maes iâ Juneau chwarter ei gyfaint gwreiddiol yn y 250 mlynedd rhwng 1770 a 2020.
Ochr yn ochr â'r gyda’r ffordd y mae’r rhewlif wedi teneuo’n gyflymach gwelwyd cynnydd yn y ffordd y mae’n torri’n ddarnau.
Mapiodd y tîm gynnydd dramatig mewn datgysylltiadau, lle mae rhannau isaf rhewlif yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhannau uchaf.
Mae 100% o’r rhewlifoedd a fapiwyd yn 2019 wedi cilio o gymharu â’u sefyllfa yn 1770, ac mae 108 o rewlifoedd wedi diflannu’n llwyr.
Mae Alaska yn cynnwys rhai o feysydd iâ llwyfandir mwyaf y byd ac mae eu dadmer yn cyfrannu’n fawr at y cynnydd yn lefel y môr ar hyn o bryd.
Dywedodd Dr Tom Holt o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’n destun pryder mawr gweld y rhewlifoedd yn cael eu colli’n sydyn, ac yn gyflymach, o Faes Iâ Juneau.
“Rydyn ni’n gwybod bod colli iâ o rewlifoedd a meysydd iâ o achos newid hinsawdd yn cyfrannu at gynnydd byd-eang yn lefel y môr. Ac mae disgwyl i Alaska barhau i fod y cyfrannwr rhanbarthol mwyaf at y cynnydd yn lefel y môr hyd at y flwyddyn 2100.
“Yr hyn y mae’r ymchwil hwn yn ei amlygu yw ein bod ni wedi bod yn tanamcangyfrif faint o iâ sy’n cael ei golli o’r maes iâ penodol hwn, a allai fod yn wir hefyd am rai eraill sydd wedi’u lleoli yn yr Arctig.
“Mae’n ymddangos bod y gostyngiad yn arwynebedd y maes iâ hefyd yn cyfrannu at gylch dieflig: wrth i’r rhewlifoedd ddadmer, mae eu harwynebau’n tywyllu wrth i falurion creigiau ddod i’r amlwg, gan leihau adlewyrchedd solar – a chynyddu dadmer arwyneb – gan gyfrannu ymhellach at golli’r rhewlifoedd. ”
Mae'r ymchwilwyr o'r farn bod y prosesau a welwyd ganddyn nhw’n Juneau yn debygol o effeithio ar feysydd iâ tebyg mewn mannau eraill ar draws Alaska a Chanada, yn ogystal â'r Ynys Las, Norwy a lleoliadau uwch-Arctig eraill.
Maen nhw hefyd yn dweud efallai y bydd angen diweddaru rhagamcanion cyfredol sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer maes iâ Juneau sy'n awgrymu y bydd colli cyfaint iâ yn llinol tan 2040, ac yn cyflymu ar ôl 2070 yn unig, i adlewyrchu'r prosesau sy’n cael eu disgrifio’n fanwl yn yr astudiaeth ddiweddaraf hon.
Ychwanegodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Bethan Davies, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Newcastle:
“Mae’n destun pryder mawr bod ein hymchwil wedi canfod cynnydd sydyn yng nghyfradd colli rhewlifoedd ar draws maes iâ Juneau ers dechrau’r 21ain ganrif.
“Mae meysydd iâ Alaska – sy’n feysydd iâ gwastad, llwyfandir yn bennaf – yn arbennig o agored i ddadmer cyflym wrth i’r hinsawdd gynhesu gan fod yr iâ’n cael ei golli ar draws yr arwyneb cyfan, sy’n golygu bod arwynebedd llawer mwy yn cael ei effeithio. Yn ogystal, dyw capiau iâ mwy gwastad a meysydd iâ ddim yn gallu cilio i lefydd uwch a dod o hyd i gydbwysedd newydd.
“Wrth i rewlifoedd ar lwyfandir Juneau barhau i deneuo ac iâ gilio i lefelau is ac aer cynhesach, mae’r prosesau adweithiol y mae hyn yn eu rhoi ar waith yn debygol o atal rhewlifoedd rhag tyfu yn y dyfodol, gan wthio rhewlifoedd y tu hwnt i drobwynt ac i gyfnod crebachu na ellir ei wrthdroi o bosibl.”
“Mae’r gwaith hwn wedi dangos y gall prosesau gwahanol gyflymu’r toddi, sy’n golygu y gallai’r rhagamcaniadau presennol ar gyfer cyfraddau crebachu fod yn rhy geidwadol ar amcangyfrif ar gyfer dadmer yn y dyfodol yn rhy isel.”
Defnyddiodd y tîm gyfuniad o gofnodion rhewlifau hanesyddol, archif luniau o’r awyr o’r 20fed ganrif, a delweddau lloeren yn ogystal â mapiau geomorffolegol a luniwyd yn sgil gwaith maes yn 2022 i greu darlun cynhwysfawr o’r newidiadau dros y 250 mlynedd diwethaf.