Mae llygredd gwrthfiotig yn gwneud malwod yn anghofus trwy newid microbiom eu perfedd.

Dr Sarah Dalesman, Prifysgol Aberystwyth
30 Mai 2024
Mae gwrthfiotigau'n rhwystro malwod rhag ffurfio atgofion newydd trwy darfu ar ficrobiom eu perfedd - y gymuned o facteria llesol a geir yn eu perfedd.
Mae'r ymchwil newydd, dan arweiniad Prifysgol East Anglia mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, yn tynnu sylw at yr effeithiau niweidiol y gallai llygredd fod yn ei gael ar fywyd gwyllt dyfrol.
Yn yr astudiaeth, rhoddwyd sudd moron i falwod y pwll - un o’i hoff fwydydd - ond bu'n rhaid iddynt ddysgu'n gyflym a chofio nad oedd hwn bellach yn ddiogel i'w fwyta.
Roedd y malwod mewn dŵr glân yn gwneud yn dda, gan osgoi bwydo ar y sudd moron pan oedd wedi'i baru â chemegyn nad oeddent yn ei hoffi.
Fodd bynnag, roedd y malwod a gyflwynwyd i grynodiadau uchel o wrthfiotigau yn y dŵr wedi methu dysgu na ffurfio cof gan barhau i ddangos ymddygiad bwydo arferol hyd yn oed ar ôl cael eu hyfforddi.
Dywedodd Dr Sarah Dalesman, cyd-awdur o Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth:
"Mae’r dŵr gwastraff sy'n mynd i mewn i'n nentydd a'n hafonydd yn cynnwys cymysgedd o gemegau a ddefnyddir i drin pobl ac anifeiliaid. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn gwybod o hyd faint o'r cemegau hyn sy'n effeithio ar yr anifeiliaid sy'n byw mewn amgylcheddau dŵr croyw.
"Nod ein hymchwil oedd penderfynu a yw llygredd gwrthfiotig yn gallu newid microbiom perfedd anifeiliaid dyfrol ac a allai hyn fod yn niweidiol i’w goroesiad".
Dywedodd Dr Gabrielle Davidson, y prif awdur, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol East Anglia:
"Mae'n hysbys bod microbiom iach yn y perfedd yn bwysig i iechyd pobl, a'n hastudiaeth ni yw'r cyntaf i ddangos bod hyn hefyd yn wir i falwod."
Canfu’r ymchwilwyr fod y gwrthfiotigau yn newid microbiom y perfedd yn sylweddol ac yn newid helaethrwydd y bacteria y canfuwyd eu bod yn ymwneud â ffurfio cof iach mewn anifeiliaid eraill, gan gynnwys bodau dynol.
Gelwir y berthynas hon rhwng y bacteria a geir yn y perfedd a gweithrediad yr ymennydd yn echelin y microbiom-perfedd-ymennydd. Gall y cemegau a gynhyrchir gan facteria da yn y perfedd wrth iddynt dorri bwyd wella iechyd yr ymennydd a’i weithrediad gwybyddol.
Mae lleihau amlder y bacteria iach hyn yn y perfedd yn atal effeithiau microbiomau'r perfedd a fyddai fel arall yn fuddiol i’r ymennydd.
Mae’r astudiaethau blaenorol ar y cysylltiad rhwng microbiom y perfedd a gweithrediad yr ymennydd wedi canolbwyntio ar rywogaethau tirol. Fodd bynnag, mae bywyd gwyllt dyfrol yn fwy tebygol o gael ei effeithio'n uniongyrchol gan y gwrthfiotig a ddaw i’w ran yn yr amgylchedd.
Nid yw gwrthfiotigau'n cael eu gwaredu’n effeithiol gan driniaeth wastraff, ac felly maent yn cyrraedd yr amgylchedd dŵr croyw.
Roedd lefelau’r gwrthfiotigau a gyflwynwyd i’r malwod yn yr arbrawf yn debyg i’r lefelau a ganfuwyd mewn dŵr croyw yn y DU, Ewrop ac yn fyd-eang.
Os yw llygredd dŵr croyw yn atal malwod rhag cael microbiom iach, ni fyddant yn gallu defnyddio eu hymennydd i addasu eu hymddygiad pan fyddant yn dod ar draws gwybodaeth newydd.
Dywedodd Dr Sarah Dalesman: "Mae ymchwil flaenorol wedi canfod bod malwod y pwll yn gorfod dysgu am ysglyfaethwyr, am beth sy'n dda neu'n ddrwg i'w fwyta, a hyd yn oed cofio gyda phwy maen nhw wedi paru.
"Bydd unrhyw beth sy'n ymyrryd â'u cof yn lleihau eu goroesiad."
Dywed yr ymchwilwyr fod hyn yn arbennig o bryderus yn wyneb yr heriau amgylcheddol newydd niferus y mae anifeiliaid yn eu profi oherwydd gweithgareddau dynol.
Ychwanegodd Dr Davidson: "Os ydyn ni'n gweld yr effaith yma mewn malwod, mae'n debygol iawn bod gwrthfiotigau'n cael effeithiau tebyg ar anifeiliaid dyfrol eraill.
"Ein gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn annog mwy o bwyslais ar bwysigrwydd microbiomau iach yn y perfedd i fywyd gwyllt ac y bydd yn cynyddu’r ymdrechion i leihau'r cemegau sy'n cyrraedd ein hamgylchedd."
Ariannwyd yr astudiaeth gan y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid.
Cyhoeddir ‘Antibiotic-altered gut microbiota explain plasticity in host memory and disrupt the covariation of pace-of-life traits in an aquatic snail’ yn The ISME Journal: Multidisciplinary Journal of Microbal Ecology.
Cynhaliwyd yr ymchwil hon yn unol â Chanllawiau Cymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid i Drin Anifeiliaid mewn Ymchwil ac Addysgu Ymddygiadol.