Arddangosfa ‘Creu Man Diogelach’ yn Aberystwyth
01 Mawrth 2024
Mae arddangosfa sy'n edrych ar rym gweithredu heb arfau gan sifiliaid mewn ardaloedd o wrthdaro treisgar yn cael ei harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Datrys dirgelwch twyni tywod ‘seren’ gyda darganfyddiad hynafol
04 Mawrth 2024
Mae gwyddonwyr wedi datrys absenoldeb dirgel twyni siâp seren o hanes daearegol y Ddaear am y tro cyntaf, gan ddyddio un yn ôl miloedd o flynyddoedd.
Ceirch newydd Aberystwyth yn cyrraedd Rhestr Genedlaethol o fri
05 Mawrth 2024
Mae pedwar math newydd o geirch a gafodd eu bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn sêl bendith ar y lefel uchaf wedi iddynt gael eu hargymell i ffermwyr gan fwrdd diwydiant y llywodraeth.
Rhyfel Wcráin: Gwragedd milwyr Rwsiaidd yn fwyfwy di-flewyn-ar-dafod yn eu gwrthwynebiad
07 Mawrth 2024
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae gwragedd milwyr wedi dod i’r amlwg fel un o’r ychydig ffynonellau sy’n beirniadu’n agored y modd y mae’r wladwriaeth wedi ymdrin â rhyfel Rwsia yn Wcrain.
Digwyddiad glaswellt cynaliadwy’r Gymdeithas Amaethyddol yn dod i Drawsgoed
08 Mawrth 2024
Caiff Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei gynnal ar fferm Trawsgoed ddiwedd mis Mai.
Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu bwydydd microbaidd cynaliadwy – prosiect £14 miliwn
11 Mawrth 2024
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatblygu bwydydd microbaidd cynaliadwy fel rhan o brosiect newydd gwerth £14m.
Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain
12 Mawrth 2024
‘Amser’ yw thema’r ŵyl wyddoniaeth dridiau (12fed tan y 14eg o Fawrth) sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn rhan o oriel celf gyfoes genedlaethol newydd
18 Mawrth 2024
Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn rhan o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, a gynlluniwyd i wneud casgliadau celf cyhoeddus yn fwy hygyrch ac i gefnogi artistiaid yng Nghymru.
Grawn sy’n gwrthsefyll sychder yn ‘hanfodol’ wrth i’r boblogaeth gynyddu - cymrawd ymchwil newydd
20 Mawrth 2024
Mae ymchwil byd-enwog planhigion Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb gyda chymrodoriaeth ymchwil sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Y Brifysgol yn llongyfarch cyn-fyfyriwr ar ei ethol yn Brif Weinidog
20 Mawrth 2024
Mae Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch Vaughan Gething, sy’n raddedig o Aberystwyth, ar ei ethol yn Brif Weinidog.
Gallai’r clip llawn o’r haul yng Ngogledd America daflu goleuni ar bos parhaus am yr Haul
28 Mawrth 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Athro Huw Morgan o'r Adran Ffiseg yn trafod y wyddoniaeth sydd i’w wneud yn ystod clipiau fel rhan o astudiaeth ar glip llawn o’r haul a fydd yn digwydd ar draws Gogledd America ar 8 Ebrill.
Atriwm newydd yn allweddol i ddatgloi potensial enfawr yr Hen Goleg
28 Mawrth 2024
Bydd mynedfa ac atriwm newydd yng nghefn yr Hen Goleg yn datgloi potensial aruthrol yr adeilad hanesyddol rhestredig gradd 1 yn ôl Lyn Hopkins o gwmni penseiri’r prosiect, Lawray.