Datrys dirgelwch twyni tywod ‘seren’ gyda darganfyddiad hynafol
Twyn Tywod Seren Lala Lallia, Erg Chebbi, Morocco. Cydnabyddiaeth: Yr Athro C Bristow
04 Mawrth 2024
Mae gwyddonwyr wedi datrys absenoldeb dirgel twyni siâp seren o hanes daearegol y Ddaear am y tro cyntaf, gan ddyddio un yn ôl miloedd o flynyddoedd.
Yr astudiaeth, gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth, Birkbeck a Choleg Prifysgol Llundain, yw’r gyntaf i ddyddio faint o amser a gymerodd i’r twyni seren ffurfio, ac i archwilio ei strwythur mewnol.
Twyni tywod enfawr yw twyni seren, a elwir felly oherwydd eu breichiau sy'n ymledu o gopa canolog. Mae'r pyramidiau tywod hyn, sy'n edrych fel sêr o'u gweld oddi uchod, yn gyffredin mewn anialwch modern gan gynnwys moroedd tywod yn Affrica, Arabia, Tsieina a Gogledd America.
Datgela’r ymchwil fod rhannau hynaf sylfaen y twyn ym Morocco yn 13,000 o flynyddoedd oed. Fodd bynnag, synnwyd gwyddonwyr gan y darganfyddiad ei fod wedi ffurfio’n gyflym yn y mil o flynyddoedd diwethaf gan y tybiwyd yn flaenorol bod twyni mwy yn llawer hŷn.
Credir mai nhw yw'r twyni talaf ar y Ddaear - gydag un yn Anialwch Badain Jaran yn Tsieina yn cyrraedd 300 metr o uchder - maent hefyd i’w gweld mewn mannau eraill yng nghysawd yr haul, ar y blaned Mawrth ac ar leuad Sadwrn Titan.
Er eu bod yn gyffredin heddiw, ni ddarganfuwyd twyni seren erioed bron yn y cofnod daearegol. Mae eu habsenoldeb wedi synnu gwyddonwyr gan fod anialwch y gorffennol yn rhan gyffredin o hanes y ddaear, wedi eu cadw mewn creigiau yn ddwfn o dan y Ddaear.
Wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Scientific Reports, dyddiodd yr astudiaeth newydd sylfeini twyn seren yn ne-ddwyrain Morocco a adnabyddir fel Lala Lallia, sy'n golygu’r 'pwynt cysegredig uchaf' yn yr iaith Berber, i tua 13,000 o flynyddoedd oed.
Mae’r twyn wedi’i leoli yn ardal Erg Chebbi yn Anialwch y Sahara yn agos at y ffin ag Algeria, ardal a ymddangosodd mewn cyfresi teledu fel SAS Rogue Heroes ynghyd â ffilmiau enwog megis The Mummy a Sahara.
Dengys yr ymchwil bod y pyramid tywod wedi cyrraedd ei uchder presennol o 100 metr a lled 700 metr oherwydd twf cyflym yn ystod y mil o flynyddoedd diwethaf wrth iddo symud yn araf i'r gorllewin.
Dywedodd yr Athro Duller o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
“Achos o’r twyni tywod coll yw hwn mewn gwirionedd - buodd yn ddirgelwch mawr pam nad oedden ni’n gallu eu gweld yn y cofnod daearegol. Dim ond oherwydd technoleg newydd y gallwn ni bellach ddechrau datgelu eu cyfrinachau nhw.
“Mae'n debyg y bydd y canfyddiadau hyn yn synnu llawer o bobl gan ein bod ni’n gallu gweld pa mor gyflym y cafodd y twyn anferthol hwn ei ffurfio, a'i fod yn symud ar draws yr anialdir am tua 50 cm y flwyddyn. Mae’r twyni sêr gwych hyn yn un o ryfeddodau naturiol y byd.”
Ychwanegodd yr Athro Charlie Bristow o Birkbeck a Choleg Prifysgol Llundain:
“Mae defnyddio radar sy’n treiddio i’r ddaear i edrych y tu mewn i’r twyn seren hwn wedi ein galluogi i ddangos sut mae’r twyni anferth hyn yn ffurfio, ac i ddatblygu model newydd fel bod daearegwyr yn gwybod yn well beth i chwilio amdano fe yn y cofnod cerrig i adnabod y nodweddion rhyfeddol hyn yn ein diffeithdiroedd.”
Mae ymchwil arloesol y gwyddonwyr yn awgrymu y ffurfiwyd y twyn tua’r un amser â’r digwyddiad Younger Dryas, cyfnod oeri sydyn yn hanes y Ddaear. Mae hefyd yn datgelu bod y twyn wedi stopio tyfu am gyfnod o 8,000 o flynyddoedd.
Mae crochenwaith a ddarganfuwyd ar y safle hefyd yn awgrymu amodau gwlypach, efallai monsŵn mwy, a sefydlogodd y twyni cyn i sychder mawr ddechrau.
Defnyddiodd yr astudiaeth newydd dechnegau dyddio ymoleuedd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddarganfod y tro diwethaf i fwynau yn y tywod ddod i gysylltiad â golau’r haul er mwyn pennu eu hoedran.
Ychwanegodd yr Athro Duller o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’n dipyn o fraint meddwl bod y technegau dyddio ymoleuedd a ddatblygwyd yma yn Aberystwyth yn datgloi rhai o gyfrinachau hinsawdd mwyaf heriol y byd. Maen nhw’n rhoi cipolwg i ni ar ddaeareg y gallai fod â goblygiadau ehangach gan gynnwys dyddodion daearegol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer adnoddau dŵr a storio carbon.”
Mae darganfyddiad diweddaraf yr Athro Duller yn defnyddio’r un dechneg dyddio ymoleuedd a ddefnyddiwyd ganddo i ddarganfod y strwythur pren hynaf yn y byd - ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature y llynedd.