Staff a myfyrwyr y Brifysgol yn codi miloedd i Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais
Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, ynghyd â staff a myfyrwyr o'r Brifysgol, yn cyflwyno siec am £20,597 i Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais
12 Medi 2023
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi codi £20,597 i gefnogi'r Uned Ddydd Cemotherapi newydd yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.
Pleidleisiodd myfyrwyr a staff mai’r Uned oedd Elusen y Flwyddyn y Brifysgol am 2022-23 a chynhaliwyd digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y flwyddyn i godi arian ar ei chyfer.
Ym mis Mai, llwyddodd grŵp o staff Prifysgol Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr i gwblhau her tri chopa Cymru. Gan gychwyn cyn y wawr, dringodd y tîm o 21 yr Wyddfa, yna Cadair Idris, ac yn y diwedd cyrhaeddwyd copa Pen y Fan yn yr heulwen gyda'r nos, a chyflawnwyd yr her mewn 16 awr.
Yn ddiweddarach yr un mis, noddwyd darlithwyr a myfyrwyr nyrsio o Ganolfan Addysg Gofal Iechyd y Brifysgol i gerdded hyd y prom yn Aberystwyth ac yn ôl 10 o weithiau.
Fis Gorffennaf, cododd tîm o staff ac uwchraddedigion o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol arian trwy redeg, cerdded neu seiclo o Gampws Penglais i ganolfan ymchwil ucheldir y Brifysgol ym Mhwllpeiran, ger Cwmystwyth.
Codwyd arian hefyd trwy gyfrwng digwyddiad elusennol arbennig i ddathlu pen blwyddi Prifysgol Aberystwyth a thîm rygbi’r Scarlets yn 150, a bu tîm o’r Brifysgol yn cymryd rhan yn ras 10k Aberystwyth. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd llu o weithgareddau codi arian ar y campws.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae cefnogi'r Uned Ddydd Cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais yn achos sy'n agos at galonnau ein staff a'n myfyrwyr, ac rwyf wrth fy modd gyda'r cyfanswm y maen nhw wedi'i godi yn ystod y flwyddyn. Bydd cannoedd o gleifion a'u teuluoedd hyd a lled canolbarth Cymru yn cael budd enfawr o’r adnodd lleol hwn ac, fel Prifysgol, rydym yn falch iawn ein bod wedi cyfrannu ato.”
Bydd yr uned ddydd newydd yn Ysbyty Bronglais, sydd i fod i agor ddiwedd 2024, yn darparu ardal driniaeth fwy a phwrpasol i gleifion, gan gynnwys cyfleuster ynysu, ynghyd â derbynfa, mannau aros ac ardaloedd i gleifion allanol, yn ogystal ag ystafelloedd ymgynghori ac archwilio. Bydd adnoddau ychwanegol yn cynnwys ystafell gyfarfod gydag offer fideo-gynadledda, ystafelloedd cwnsela, a mannau preifat i gleifion.
Dywedodd Bettina Vance, Arbenigwr Nyrsio Clinigol Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais:
“Rydym wrth ein bodd gyda'r gwaith codi arian anhygoel gan fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth i’r uned ddydd cemotherapi ym Mronglais. Mae'r uned yn darparu gwasanaethau canser i gleifion o bob rhan o'r canolbarth. Bydd y rhoddion yn cynorthwyo’r adran i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu, a byddant yn cael effaith fawr ar brofiad cleifion, teuluoedd a staff. Ar ran yr uned hoffwn ddiolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.”
Ers 2012, mae apêl Elusen y Flwyddyn Prifysgol wedi gweithio i godi arian at achos teilwng a ddewisir gan ei staff a'i myfyrwyr.