Pennaeth newydd Ysgol Gelf Aberystwyth
Yr Athro Catrin Webster
22 Mehefin 2022
Mae'r Athro Catrin Webster wedi cael ei phenodi'n Bennaeth newydd yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn Athro Celfyddyd Gain, bydd Webster yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth o Camberwell, Prifysgol y Celfyddydau Llundain, lle mae'n Gyfarwyddwr Rhaglenni BA & MA Celfyddyd Gain, yn arwain ac yn rheoli portffolio rhyngddisgyblaethol o gyrsiau.
Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Rhaglenni Graddau Ymchwil, portffolio’r cynllun Meistr Deialogau Cyfoes a BA Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dyfarnwyd cadair Athro iddi yn 2016 am ei chyfraniad i addysgu ac ymchwil mewn Ymarfer Celfyddyd Gain.
Astudiodd yr Athro Webster baentio fel myfyrwraig israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol Gelf Slade, Coleg Prifysgol Llundain, a chafodd radd PhD o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar sut y gellir diffinio tirwedd yn yr unfed ganrif ar hugain ac i ba raddau y mae hanes ac ymarfer celf gyfoes yn llywio ein dealltwriaeth. Mae hi hefyd yn arbenigo yn y berthynas rhwng paentio a chyfryngau dau ddimensiwn eraill fel fideo, ffotograffiaeth a phrint, a sut y gall paentio ategu ac adleisio cyfryngau amgen i ailddyfeisio'i hun yn barhaus.
Mae wedi bod yn artist preswyl mewn sawl sefydliad rhyngwladol, ac mae wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan weithio ar brosiectau unigol ac mewn cydweithrediadau rhyngwladol. Mae enghreifftiau o’u gwaith i’w gweld mewn casgliadau cenedlaethol megis Amgueddfa Cymru, Caerdydd a Chasgliad Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, Oriel Hayward, Canolfan Southbank, Llundain. Ym mis Mawrth 2024, bydd yn cyflwyno Pansy, arddangosfa bwysig o fideos/paentiadau a grëwyd ar y cyd, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol:
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r Athro Webster i Aberystwyth, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi penodi rhywun sydd mor ddylanwadol yn ei maes, ac sy’n eiriolwr angerddol dros gelfyddyd Gymreig. Fel artist, addysgwr ac arweinydd academaidd profiadol, bydd yn dod â dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad i'r swydd. Mae'n wych ei bod hi'n ymuno â ni - llongyfarchiadau mawr iddi."
Wrth ymateb i'w phenodiad, dywedodd yr Athro Catrin Webster, a fydd yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi 2023:
"Rwy'n falch iawn fy mod yn ymuno â'r Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, fel Athro a Phennaeth Adran. Mae gen i gariad mawr tuag at Aberystwyth. Fel artist a fagwyd yn yr ardal, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi, gan ffurfio sylfaen fy ngwaith ac arwain at gyfleoedd proffesiynol cyffrous yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm eithriadol i barhau i ddatblygu gwaith rhagorol yr Ysgol Gelf o fewn diwylliant creadigol a deinamig Aberystwyth a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos â chydweithwyr i gydweithio, datblygu cyfleoedd ymchwil a chyfoethogi profiad y myfyrwyr yn barhaus."