Ymchwilwyr yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn taclo unigrwydd gwledig
Tirwedd Wledig, Cymru
16 Mehefin 2023
Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gofyn i bobl rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil am sut y gellid goresgyn unigrwydd mewn ardaloedd gwledig.
Mae un o bob chwech o bobl yng Nghymru yn adrodd am brofiadau o deimlo’n unig, ac mae traean yn byw mewn ardaloedd gwledig ac felly gallent fod mewn perygl o brofi arwahanrwydd cymdeithasol a all arwain at unigrwydd.
Mae'r rhai sydd o grwpiau ethnig lleiafrifol, ffoaduriaid, cartrefi incwm isel, yn byw ar eu pen eu hunain neu ag anableddau yn fwy tueddol o ddioddef o unigrwydd. Mae pobl unig â risgiau uwch o glefyd y galon a strôc, gordewdra, ysmygu a dirywiad gwybyddol.
Fel rhan o’r ymchwil, mae’r academyddion eisoes wedi cyfweld â sefydliadau trydydd sector, ac wedi adnabod ffactorau unigryw a allai waethygu unigrwydd mewn cymunedau gwledig. Ystyrir y gallai’r gymuned amaethyddol fod yn un sy’n fwy tebygol o gael ei heffeithio gan y ffactorau hyn.
Mae’r tîm ymchwil bellach yn gofyn i bobl sy’n credu eu bod yn perthyn i gymuned amaethyddol rannu eu profiadau gyda’r ymchwilwyr, fel y gallant lunio argymhellion i wella cymorth. Gellir cysylltu â’r prosiect drwy e-bostio: stj34@aber.ac.uk
Dywedodd prif ymchwilydd y prosiect, Stephanie Jones o Brifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn awyddus i glywed gan bobl am eu profiad bywyd o unigrwydd, sy’n cael effaith wirioneddol ar iechyd a lles pobl. Gyda chymorth pobl, rydym yn gobeithio bod yr ymchwil hwn yn gyfle i lunio argymhellion a all fynd i’r afael ag unigrwydd mewn cymunedau gwledig. Mae hwn yn gyfle da i leisiau pobl gael eu clywed.”
Dywedodd Dr Rachel Rahman o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth:
“Nod yr ymchwil hwn yw gwella dealltwriaeth o anghydraddoldebau sy’n ymwneud ag unigrwydd yng nghefn gwlad Cymru, ac i ddeall yn well i ba raddau y mae mentrau cymunedol yn cyfrannu at fynd i’r afael ag unigrwydd. Rydym am adnabod modelau arfer gorau mewn cymorth cymunedol y gellir eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig i fynd i’r afael â materion unigrwydd. Mae’r astudiaeth hefyd yn gyfle i adnabod lle gallai cymorth cymunedol presennol fod yn wynebu heriau wrth gyrraedd anghenion cudd gyda’r nod o ddatblygu mecanweithiau cymorth i wella cynhwysiant cymdeithasol.”
Dywedodd Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol yr elusen cymorth ffermio Tir Dewi:
“Mae ffermio bob amser wedi cynnwys elfen o unigedd ac mae hyn wedi dod â’i broblemau i deuluoedd fferm.Heddiw, fodd bynnag, mae maint y broblem honno yn fwy nag erioed.Mae pwysau gwaith wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed.Yn ychwanegol at hyn mae llawer iawn o newid polisi sy’n wynebu ffermio a’r ansicrwydd mae hynny wedi’i achosi.
“Nid yn unig ydy ffermwyr yn gorfod goresgyn yr holl heriau hyn, ond yn aml maen nhw’n gorfod gwneud hynny ar eu pen eu hunain.Mae rhai ffermwyr yn llai tebygol o geisio am gymorth, gan gynnwys gofal iechyd. Mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau bod ffyrdd clir a hawdd er mwyn iddyn nhw allu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
Ariennir y prosiect gan gronfa ysgoloriaeth gofal iechyd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.