Ymweliad ymchwil myfyrwyr milfeddygol Cymru i Dde Affrica
Myfyrwyr milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth
12 Mehefin 2023
Mae grŵp o fyfyrwyr Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth yn ymweld â De Affrica i ddysgu mwy am bwysigrwydd y proffesiwn i gadwraeth bywyd gwyllt a chyfiawnder cymdeithasol.
Fel rhan o’u taith ‘Iechyd Cyfunol’ y mis hwn (14 – 27 Mehefin 2023), bydd yr israddedigion yn ymweld â dwy ganolfan ymchwil ym Mharc Cenedlaethol Kruger a Chyfadran Milfeddygaeth Prifysgol Pretoria.
Ymysg yr anifeiliaid egsotig y byddant yn dod ar eu traws fydd y jiráff, yr afonfarch a’r rhinoseros gwyn prin.
Bydd y myfyrwyr yn dysgu am ystod eang o ymchwil a chadwraeth bywyd gwyllt gan gynnwys digornio rhinoseros, profi byfflo am y diciâu, samplu fwlturiaid, a defnyddio drôns mewn cadwraeth. Byddant yn ymweld â chlinig iechyd anifeiliaid gwledig, yn cwrdd â chymunedau lleol ac yn dysgu am rôl milfeddygon wrth fynd i’r afael â thlodi.
Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, sy’n hanu o Dde Affrica:
“Rhan o’m gweledigaeth ar gyfer yr Ysgol yw ehangu gorwelion y myfyrwyr i ystyried arwyddocâd gwahanol y proffesiwn milfeddygol mewn gwledydd gwahanol. Wrth reswm, mewn parciau cenedlaethol o bwys fel Kruger mae gwarchod bywyd gwyllt yn gwbl ganolog i’w gwaith. Yn ogystal â’r gwaith ymchwil a chadwraeth arbenigol yma, dyma gyfle hefyd i’r myfyrwyr ddysgu am y swyddogaeth bwysig sydd gan filfeddygaeth wrth fynd i’r afael â thlodi yn y wlad. Caiff ardrawiadau iechyd, cymdeithasol ac amgylcheddol oll eu cwmpasu gan gysyniad ‘Iechyd Cyfunol’.
“Rwy’n mawr obeithio y bydd y daith yn brofiad arbennig a gwefreiddiol i’r myfyrwyr gan gynnig mewnwelediad pwysig i effaith milfeddygaeth yn y rhan honno o’r byd.”
Mae Catrin Durham o Fachen yng Nghaerffili yn fyfyrwraig filfeddygol yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y daith ac at weld yr anifeiliaid egsotig yma yn eu cynefin naturiol. Dyma gyfle heb ei ail nid yn unig i ddysgu gan arbenigwyr yn Ne Affrica am eu hymchwil a’u dulliau o weithio ond hefyd i gymharu profiadau a chreu cysylltiadau gyda myfyrwyr milfeddygol eraill yr ochr draw i’r byd. Dyma ‘Iechyd Cyfunol’ ar waith.”
Ariennir y daith yn rhannol gan gynllun Taith Llywodraeth Cymru sy’n darparu cyllid i alluogi staff addysg a dysgwyr i dreulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau.