Prosiect ymchwil ar brotein pys gwerth £1 filiwn am leihau mewnforion soia
Pys yn tyfu yng Ngogerddan, Prifysgol Aberystwyth
31 Mai 2023
Bydd prosiect newydd gwerth £1 filiwn yn ymchwilio i fathau newydd o bys i leihau dibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar fewnforion soia, cyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 1 Mehefin).
Mae’r prosiect ‘Protein Pys’, sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth, yn cael ei arwain gan yr arbenigwyr a bridwyr hadau glaswellt a phorthiant, Germinal.
Yn 2022, mewnforiodd y Deyrnas Gyfunol dair miliwn o dunelli o soia i’w ddefnyddio mewn bwydydd dynol ac anifeiliaid.
Mae soia hefyd yn gnwd sy'n gysylltiedig â datgoedwigo yn Ne America, sy'n cyfrannu at gyflymu newid hinsawdd.
Mae'r galw am broteinau sy'n seiliedig ar blanhigion yn cynyddu.Mae soia yn sail i’r rhan fwyaf o opsiynau protein sy’n seiliedig ar blanhigion, ond ar hyn o bryd maent yn anodd eu tyfu yn hinsawdd y Deyrnas Gyfunol.
Nod y prosiect hwn yw defnyddio pys fel ffynhonnell brotein cartref a all gymryd lle soia mewn bwydydd dynol.Mae pys yn addas ar gyfer hinsawdd y Deyrnas Gyfunol, yn gyfeillgar i'r amgylchedd, yn hybu iechyd y pridd trwy osod nitrogen rhydd o'r aer a hyd yn oed gadael rhywfaint yn y ddaear ar gyfer y cnwd nesaf.
Bydd Germinal Horizon, is-adran Ymchwil ac Arloesi’r cwmni, yn cydweithio ag IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, Canolfan John Innes, a PGRO ar y prosiect.Ei nod yw mynd i’r afael â thair her bwysig: yr angen dybryd i ddisodli soi â chnydau protein y Deyrnas Gyfunol;cwrdd â galw'r farchnad am flas ac ymarferoldeb;a thyfu dewis arall o brotein soia yn gynaliadwy.
Dywedodd Dr Catherine Howarth o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, un o’r ymchwilwyr ar y prosiect:
“Mae gan bys broffil maeth rhagorol ac maent yn rhan bwysig o gylchdroadau cynaliadwy yn amaethyddiaeth y Deyrnas Gyfunol.Gallan nhw hefyd helpu i leihau ein dibyniaeth ar soia sy’n cael ei fewnforio, a fydd yn cefnogi cymdeithas i gyrraedd targedau sero net y llywodraeth.Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion sy’n cynnwys pys fel cynhwysyn ac rydyn ni’n llawn cyffro o fod yn rhan o’r prosiect hwn.”
Dywedodd Paul Billings, Rheolwr Gyfarwyddwr Germinal y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon:
“Mae dod o hyd i ddewis arall cynaliadwy yn lle soia yn flaenoriaeth i’r diwydiant bwyd.Mae cnydau protein fel pys yn ddelfrydol ar gyfer hinsawdd y Deyrnas Gyfunol ond un o’n heriau yw eu proffil blas mewn bwyd dynol.Mae blasau pys yn annymunol i ddefnyddwyr mewn bwyd wedi'i brosesu, felly y nod yw cynhyrchu pys sy'n ddi-flas ond sy'n cadw gwerth maethol.Cafodd y gennyn ar gyfer pys heb flas ei adnabod gyntaf yn y 1990au gan wyddonwyr yng Nghanolfan John Innes (JIC) yn Norwich.
“Bydd y rhaglen fridio gyffrous hon yn defnyddio ymchwil arloesol mewn geneteg pys i ddatblygu mathau newydd heb y problemau traddodiadol cysylltiedig.”
Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Lwybr Arloesedd Ffermio Defra trwy Innovate UK, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Gyfunol.
Yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol, nod yr ymchwil yw cynnig cyfleoedd economaidd newydd i ffermwyr ddefnyddio dewis arall wedi'i dyfu gartref yn lle soia.Bydd y prosiect yn cynnwys profion cadarn ar ffermydd i sicrhau mai dim ond y mathau sy’n bodloni gofynion y farchnad a gofynion agronomeg ffermwyr y Deyrnas Gyfunol fydd yn mynd i’r farchnad.