Myfyrwyr yn ennill taith i ŵyl ffilm fawreddog yn Efrog Newydd
Juliette Daum, Justas Kavaliauskas, Lucy Thomas ac Elena Bloomquist gyda Becky Underwood (Swyddog Cyswllt â Chyn-fyfyrwyr y Brifysgol), Dr Greg Bevan and Dr Kate Woodward.
30 Mai 2023
Bydd pedwar myfyriwr ffilm a theledu o Brifysgol Aberystwyth yn hedfan i’r Unol Daleithiau ym mis Mehefin 2023 i fynychu un o wyliau ffilm mwyaf blaenllaw’r byd.
Cafodd Elena Bloomquist, Juliette Daum, Justas Kavaliauskas a Lucy Thomas eu dewis fel rhan o gystadleuaeth flynyddol a gynhelir gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu y Brifysgol.
Byddant yn treulio pedwar diwrnod yn Efrog Newydd yng ngŵyl uchel ei bri Tribeca, a sefydlwyd gan Robert De Niro a Jane Rosenthal yn 2001 i helpu i adfywio canol Manhattan yn dilyn ymosodiadau 9/11 ar Ganolfan Masnach y Byd.
Caiff ymweliad yr israddedigion ei ariannu diolch i gyfraniadau hael i Gronfa Aber, y rhaglen roddi i gyn-fyfyrwyr, rhieni, staff a chyfeillion y Brifysgol i gefnogi prosiectau sy’n cyfoethogi profiad a datblygiad myfyrwyr.
Bydd y myfyrwyr yn cael teithiau awyren i Efrog Newydd ac yn ôl, llety a thocyn cynrychiolydd gŵyl a fydd yn rhoi mynediad iddynt i ddangosiadau, digwyddiadau, lolfeydd gwneuthurwr ffilmiau ac ardaloedd VIP.
Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol i fyfyrwyr o Aberystwyth gael y cyfle i fynychu Gŵyl Tribeca, sy’n arddangos gwaith newydd gan wneuthurwyr ffilm sefydledig yn ogystal â chrewyr sy’n dod i’r amlwg.
Dywedodd Lucy Thomas, myfyrwraig trydedd blwyddyn BA Astudiaethau Ffilm a Theledu: “Dwi’n teimlo’n ddiolchgar iawn i gael y cyfle hwn i fynychu Gŵyl Tribeca. Fel darpar gyfarwyddwr ifanc, mae mynychu gŵyl mor uchel ei bri yn freuddwyd gen i erioed ac mae bellach ar fin dod yn realiti. Does dim dwyiaith y bydd cael cyfle i gwrdd ag unigolion o’r diwydiant o Efrog Newydd a thros y byd yn ehangu fy ngorwelion.”
Mae’r rhaglen o weithgareddau ar gyfer 2023 yn parhau â thraddodiad hir yr ŵyl o archwilio datblygiadau arloesol mewn adrodd storïau drwy gyfrwng ffilm, teledu, realiti rhithwir, gemau, podlediadau a mwy. Yn ystod y digwyddiad, caiff cyfanswm o 109 o ffilmiau nodwedd eu dangos gan 127 o wneuthurwyr ffilm ar draws 36 o wledydd, gan gynnwys 93 première byd.
Mae Dr Greg Bevan a Dr Kate Woodward sy'n addysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn mynd gyda'r myfyrwyr i Tribeca.
Dywedodd Dr Bevan, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Ffilm: "Llongyfarchiadau i'r pedwar myfyriwr ar ennill yr ymweliad hwn â Gŵyl fyd-enwog Tribeca. Diolch i haelioni cymuned cyn-fyfyrwyr y Brifysgol, rydym yn gallu cynnig y cyfle anhygoel hwn i'n myfyrwyr ymwneud â rhai o'r bobl fwyaf dylanwadol ym myd ffilm a sinema, ac elwa o'r cyfleoedd dysgu niferus a ddaw yn ei sgil. Mae’n perthynas unigryw â'r ŵyl yn deillio o angerdd ac ymrwymiad un o'n graddedigion ein hunain, Ben Thompson, sydd bellach yn Rhaglennydd Ffilmiau Byr Tribeca.”
Dywedodd Dr Woodward, Darlithydd Mewn Astudiaethau Ffilm: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Aber am gefnogi’r daith hon. Mae'n brofiad trawsffurfiol i’r myfyrwyr, ac yn eu helpu i symud o ystyried eu hunain fel myfyrwyr, i ystyried eu hunain fel gwneuthurwyr ffilmiau, cyfarwyddwyr a sgriptwyr. Ar yr un pryd cânt gyfle i wylio dangosiadau o ffilmiau newydd a mynychu dosbarthiadau meistr – a gweld tipyn o sêr adnabyddus. Bydd cyfle iddynt hefyd ymwneud a rhwydweithio â gwneuthurwyr ffilmiau ifanc eraill a thrafod gwaith ei gilydd.”
Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig addysgu arbenigol ym maes gwneud ffilmiau dogfennol, gwneud ffilmiau ffuglen, gwneud ffilmiau arbrofol, cynhyrchu aml-lwyfan, cynhyrchu stiwdio a sgriptio, yn ogystal â sinema gelf, sinema arswyd a chwlt, Hollywood, astudiaethau rhyw, estheteg teledu, diwylliannau digidol, a gemau fideo.