Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth mentergarwch ar gyfer myfyrwyr
Enillydd Gwobr Menter Aber 2023, Maria Fernandez
11 Mai 2023
Cwmni sydd am gynaeafu a harneisio ychwanegyn bwyd o goed Cymreig sy’n cyfoethogi porthiant anifeiliaid yn naturiol yw enillydd cystadleuaeth flynyddol syniad busnes myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Mae tanin yn sylwedd y gellir ei ganfod mewn coed a phlanhigion. Mae ganddo briodweddau gwrthocsidol a gwrthfacteriol naturiol, a gallai chwyldroi'r diwydiant bwyd.
Mae Maria Fernandez, sy’n astudio am ddoethuriaeth yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn gyda phlanhigion sy’n cynnwys llawer o danin, ac mae hi wrthi’n ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio buddion tanin er lles ystod eang o ddiwydiannau yng Nghymru.
Yn sgil ei syniad busnes arloesol, Tannos, enillodd Fernandez fuddsoddiad busnes gwerth £10,000, wedi’i noddi gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, a swyddfa am flwyddyn yn ArloesiAber yng nghystadleuaeth Gwobr Menter Aber 2023 y Brifysgol.
Yn ôl Fernandez, sy’n fiotechnolegydd ac yn faethegydd anifeiliaid:
"Rwy'n falch iawn fy mod wedi ennill Gwobr Menter Aber. Trwy gyfrwng Tannos, rwy'n bwriadu canolbwyntio ar y llu o ffyrdd ymarferol y gellir defnyddio tanin. Dylem fod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o danin fel adnodd, a bwriadaf ddechrau cynhyrchu tanin ar raddfa ddiwydiannol gan ddefnyddio adnoddau lleol a chynaliadwy.
"Byddaf yn canolbwyntio i ddechrau ar ddefnyddio tanin fel atchwanegyn wrth gynhyrchu porthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid, â'r nod o leihau allyriadau methan a gwella ansawdd silwair. Y cam nesaf yw darparu tanin fel ateb fforddiadwy, effeithlon, a naturiol i sectorau eraill yng Nghymru - megis y sectorau lledr a diodydd a'r diwydiant fferyllol."
Er 2012, mae cystadleuaeth Gwobr Menter Aber wedi gwahodd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu eu syniadau ar gyfer cynnyrch, gwasanaeth neu fenter gymdeithasol newydd, a chystadlu am fuddsoddiad i'w helpu i droi eu cysyniad yn fenter lwyddiannus.
Wrth iddynt ddatblygu eu ceisiadau, mae’r myfyrwyr mentrus yn cael cyfle i fynychu amrywiaeth o weithdai sgiliau busnes a sgyrsiau gan entrepreneuriaid llawn ysbrydoliaeth.
Roedd y chwe thîm o fyfyrwyr a gyrhaeddodd rownd derfynol yr ornest eleni wedi datblygu syniadau yn amrywio o lwyfan gwerthu a rhentu ceir i fusnes hydroponig sydd eisiau tyfu ffrwythau a llysiau mewn dŵr llawn maethynnau heb bridd.
Bu pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cyflwyno eu syniadau i grŵp o 'ddreigiau', â llawer ohonynt yn gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus ym myd busnes.
Yn ogystal â'r prif fuddsoddiad, mae gwobrau eraill uchel eu bri i’w hennill yng Nghystadleuaeth Menter Aber.
Dyfarnwyd gwobr gwerth £3,000, yn rhoddedig gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru y Brifysgol, am y cais gorau o'r tu hwnt i ddisgyblaethau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), i'r fyfyriwr israddedig Renata Freeman sy’n astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ac Economeg, am y syniad am lwyfan rhentu a gwerthu ceir, COUR.
CafoddSatellite Media, gwasanaeth marchnata a grëwyd gan y myfyrwyr Raex Philip a Callum Payne, wobr o £3,000 wedi’i noddi gan Engineers in Business. Enillodd y gwasanaeth hwnnw hefyd daleb gwerth £1,500 am gymorth llawrydd a roddwyd gan enillydd Gwobr Menter Aber 2021, Karl Swanepoel, entrepreneur ym maes technoleg a Phrif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Revolancer.
Enillodd Lindsay Hayns, sy’n fyfyriwr yn yr Adran Gwyddorau Bywyd, y cyfle i ddefnyddio labordy yn ArloesiAber i ddatblygu rhagor ar ei syniad i luosogi planhigion tŷ, Prop-a-Plant.
Cafodd pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol £1,000 gan y Brifysgol er mwyn datblygu rhagor ar eu syniadau, â’r arian hwnnw’n dod o grant Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru y Brifysgol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae cystadleuaeth Gwobr Menter Aber yn cael ei threfnu’n flynyddol gan Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Mentergarwch y Brifysgol:
"Da iawn bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni a llongyfarchiadau i Maria ac i bawb arall a enillodd wobrau. Rhoddodd myfyrwyr mentrus Prifysgol Aberystwyth amrywiaeth eang o syniadau ysbrydoledig i'r beirniaid, gan fanteisio i’r eithaf ar yr hyfforddiant sgiliau entrepreneuriaeth a gawsant wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau busnes.
"Hoffem ddiolch, yn ôl yr arfer, i'r sefydliadau a roddodd y gwobrau ar gyfer y gystadleuaeth eleni, i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am gyfrannu tuag at Gronfa Aber, sy’n ariannu'r brif wobr, ac i'n panel gwych o feirniaid."
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gwaith menter ymysg myfyrwyr (ledled pob rhaglen radd), graddedigion a staff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we AberPreneurs.