Lansio cynllun Gweithredu ar Hil Prifysgol Aberystwyth
O'r chwith i'r dde: Bayanda Bibusa Leatile Vundamina (Swyddog Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth), Dr Caitlin Baker (Darlithydd yn Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Neil Glasser (Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Uzo Iwobi CBE (Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Hil Cymru), Yr Athro Colin McInnes (Prifysgol Aberystwyth), Ify Iwobi (Pianydd a Chyfansoddwr) a Sheree-Ann Jonas (Swyddog Cydraddoldeb Hiliol, Prifysgol Aberystwyth)
17 Chwefror 2023
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi nodi Wythnos Cydraddoldeb Hiliol (6-12 Chwefror) gyda digwyddiad arbennig i lansio ei Chynllun Gweithredu Hiliol.
Cynhaliwyd ‘Cydraddoldeb Hiliol – O bwys i ni’ ar ddydd Mercher 8 Chwefror, yng nghwmni myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol.
Fel rhan o’r digwyddiad, cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Uzo Iwobi CBE, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru ac Is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Cafodd y gynulleidfa fwynhau perfformiad cerddorol gan Ify Iwobi, pianydd a chyfansoddwr arobryn o Abertawe ac Anwar Siziba, sy’n ganwr a chyfansoddwr RnB. Yn ogystal, cafwyd darlleniad o gerdd Eric Ngalle Charles gan Bayanda Bibusa Leatile Vundamina (Swyddog Lleiafrifoedd Ethnig yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth).
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Sheree-Ann Jonas, Swyddog Cydraddoldeb Hil ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Roedd yn wych cael gweld myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol yma heddiw. Mae lansio’r Cynllun Gweithredu ar Hil yn gam pwysig tuag at greu cymuned gyfartal, amrywiol a chynrychioliadol yn y Brifysgol.”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor:
“Mae ymrwymiad yma ym Mhrifysgol Aberystwyth i fod yn wirioneddol gynhwysol ac yn weithredol yn wrth-hiliol. Fel sefydliad, gallwn gyrraedd ein llawn botensial drwy gymryd mantais o ddoniau unigolion o bob cefndir, ac mae’r Cynllun Gweithredu ar Hil yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i sicrhau cyfleoedd cyfartal i’n holl fyfyrwyr a staff.”
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
“Yn fyfyrwyr a staff, gallwn ni i gyd elwa o weithio ac astudio mewn prifysgol amrywiol a diwylliannol gynhwysol, ac fe hoffwn alw ar holl gymuned y Brifysgol am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad wrth i ni gydweithio i gyflawni amcanion ein Cynllun Gweithredu ar Hil.”
Bydd gweithredu Cynllun Gweithredu ar Hil y Brifysgol yn cael ei arwain gan Grŵp Gweithredu ar Hil newydd o staff a myfyrwyr. Mae gwaith paratoi hefyd wedi dechrau tuag at sicrhau achrediad Siarter Cydraddoldeb Hiliol.