Prosiect myfyriwr o Aberystwyth yn mynd i’r afael â gwastraff bwyd
Ellena Jenks yn mynychu digwyddiad ‘Bwydo Cymru a’r Byd’ yn y Senedd ym mis Hydref 2022
14 Rhagfyr 2022
Mae prosiect arloesol gan fyfyriwr i annog pobl i leihau gwastraff bwyd wedi derbyn cyllid ar gyfer datblygiad pellach gan yr Academi Brydeinig.
Mae 'A Taste for Change' yn cael ei arwain gan Ellena Jenks, sydd yn raddedig o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd yn ystyried sut y gallai defnyddwyr lleol gael eu haddysgu, eu hannog a'u galluogi i wneud dewisiadau bwyd cynaliadwy.
Bydd y gwaith yn gweld datblygiad ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a phosteri, yn ogystal â digwyddiadau lleol a gweithredu, i godi ymwybyddiaeth am effaith amgylcheddol gwastraff bwyd, a hyrwyddo ffyrdd y gall unigolion leihau gwastraff.
Bydd y prosiect yn cysylltu â rhanddeiliaid lleol yn Aberystwyth, megis perchnogion bwytai, i'w hannog i gyfrannu at gynlluniau bwyd dros ben sy'n ailddosbarthu bwyd sy'n agosáu at y ‘dyddiad ar ei orau cyn’ ('bwyd label melyn'). Bydd hefyd yn annog busnesau bwyd i gefnogi'r defnydd o gynwysyddion cludfwyd y gellir eu hailddefnyddio.
Yn ogystal, mae’n fwriad gweithio gyda thîm gwasanaethau croeso’r Brifysgol i gyflwyno mesurau sy'n lleihau gwastraff bwyd ar y campws â’r nod o wella cysylltiadau'r Brifysgol â'r prosiect oergell gymunedol leol.
Mae Ellena Jenks yn egluro: "Bwriad ‘A Taste for Change’ yw cynorthwyo myfyrwyr a phobl leol fel ei gilydd i gyfuno arbed ceiniogau gydag ymladd newid hinsawdd o'u hoergell. Pe na bai neb yn gwastraffu unrhyw fwyd am un diwrnod yn unig, byddai'n cael yr un effaith â phlannu miliwn o goed. Rwy'n gobeithio y bydd y prosiect yn grymuso pobl i wneud bwyd blasus ac arbed arian, a hynny wrth leihau tunelli o garbon a chreu newid hirdymor i Gymru."
Dywedodd Yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn bod prosiect Ellena i godi ymwybyddiaeth am fater hanfodol gwastraff bwyd wedi cael cyllid gan yr Academi Brydeinig. Er bod gan y prosiect agenda amgylcheddol yn bennaf, mae'r gwaith yn amserol gan fod yr argyfwng costau byw presennol yn ei gwneud hi'n bwysicach i bob un ohonom ddysgu am y ffyrdd y gallwn gyfyngu ar wastraff bwyd a dysgu byw yn fwy cynaliadwy. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr effaith y mae ei hymgyrch yn ei chael, ar gampws y Brifysgol, ac yng nghymuned ehangach Aberystwyth."
Caiff y prosiect ei gyllido gan Brosiectau Effaith Cynaliadwyedd SHAPE yr Academi Brydeinig, menter gydweithredol gan yr Academi Brydeinig a’r elusen addysg a arweinir gan fyfyrwyr, Myfyrwyr yn Trefnu ar gyfer Cynaliadwyedd (SOS-UK).
Mae’r fenter yn annog myfyrwyr ac academyddion ar draws disgyblaethau SHAPE (gwyddorau cymdeithasol, y Dyniaethau a’r celfyddydau ar gyfer pobl a’r economi) i ddefnyddio eu pynciau i helpu i fynd i’r afael â materion cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Dywedodd Dr Molly Morgan Jones, Cyfarwyddwr Polisi’r Academi Brydeinig: “Mae’r disgyblaethau SHAPE yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddeall dimensiynau dynol a chymdeithasol cymhleth heriau amgylcheddol.
“Mae’n wych cynnig cyfle i fyfyrwyr ac academyddion yn y pynciau hyn brofi a thyfu eu hatebion arloesol i faterion cynaliadwyedd amgylcheddol yn eu hardal leol trwy Brosiectau Effaith SHAPE.”