Ethol academydd “gweledigaethol” o Aberystwyth yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol
Yr Athro Qiang Shen
21 Medi 2022
Mae uwch-academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i beirianneg a thechnoleg wrth ddod yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol.
Mae’r Athro Qiang Shen, Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol ac Athro yn yr adran Gyfrifiadureg, yn ymuno â charfan ddisglair o 59 Cymrawd newydd arall.
Bydd yr Athro Shen yn cael ei dderbyn eleni ynghyd â’r mathemategydd, yr Athro Hannah Fry a Phrif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU Syr Patrick Vallance, sydd ill dau wedi eu penodi yn Gymrodyr er Anrhydedd.
Etholwyd pob un o’r Cymrodyr am eu cyfraniadau nodedig i’w sectorau, gan arloesi gyda datblygiadau newydd, arwain cynnydd mewn busnes neu’r byd academaidd, darparu cyngor lefel uchel i’r llywodraeth, neu hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o beirianneg a thechnoleg.
Dywedodd yr Academi y bydd pob un o'r Cymrodyr newydd yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddefnyddio pŵer technoleg i greu cymdeithas fwy cynaliadwy a chynhwysol.
Dywedodd hefyd fod yr Athro Shen yn nodedig am ymchwil a datblygiad sy'n arwain y byd ac sy'n torri tir newydd ym maes modelu a dadansoddi data. Mae ganddo gymwysiadau bywyd go iawn ym meysydd archwilio’r gofod, gwrthderfysgaeth, monitro prosesau, rheoli cludiant a phroffilio cwsmeriaid.
Cafodd ei ddisgrifio fel “arweinydd academaidd llawn gweledigaeth, sy’n ysbrydoli ac yn meithrin cenedlaethau’r dyfodol o beirianwyr cyfrifiadureg yn fyd-eang”.
Dywedodd yr Athro Shen: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn i gael fy nghydnabod gan fy nghyfoedion am wneud rhywbeth rwy'n ei garu.
“Mae hon yn ymdrech tîm i raddau helaeth; dim ond yn bosibl oherwydd fy mod wedi fy amgylchynu gan y myfyrwyr a’r cydweithwyr mwyaf dawnus tra’n cael y cyfleoedd i weithio gydag academyddion a diwydianwyr blaenllaw yn y meysydd perthnasol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Fodd bynnag, nid fy ngwaith fy hun yw’r unig enghraifft o ymchwil Deallusrwydd Artiffisial sy’n digwydd yn y Brifysgol. Rydyn ni wedi ffurfio Hyb Deallusrwydd Artiffisial yn ddiweddar i feithrin ymchwil ar draws astroffiseg, gofal iechyd, seilwaith a thu hwnt. Mae’n faes hanfodol i’w ymchwilio er mwyn trawsnewid a gwella ein cymdeithas, ac, i ni, fel Prifysgol, i arloesi a datblygu atebion newydd i broblemau cyfredol.”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae llwyddiannau’r Athro Shen ym maes deallusrwydd cyfrifiannol yn fyd-enwog felly rwy’n falch o’i weld yn cael ei gydnabod fel hyn gan yr Academi Beirianneg Frenhinol.
“Mae ei wobr yn tanlinellu pwysigrwydd deallusrwydd artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth a sut rydyn ni’n mynd ati i edrych ar ei ddefnydd ar draws nifer o ddisgyblaethau. Llongyfarchiadau gwresog i’r Athro Shen.”
Dywedodd Syr Jim McDonald FREng FRSE, Llywydd yr Academi Beirianneg Frenhinol: “Mewn byd ansicr, mae un peth yn sicr – bydd sgiliau peirianneg, gweledigaeth ac arweinyddiaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r heriau domestig a byd-eang cynyddol sy’n ein hwynebu heddiw. Bydd cysylltedd, proffesiynoldeb, profiad a doethineb y Cymrodyr newydd sy’n ymuno â ni heddiw yn cyfoethogi’n fawr yr arbenigedd a’r gefnogaeth y gallwn eu darparu i’r llywodraeth ac i gymdeithas yn gyffredinol.”
Bydd pob Cymrawd yn cael ei dderbyn yn ffurfiol i’r Academi mewn seremoni arbennig yn Llundain ar 8 Tachwedd. Mae’r Cymrodyr eleni yn rhan o fenter barhaus Cymrodoriaeth Addas i’r Dyfodol yr Academi sy'n ceisio denu enwebiadau ar gyfer mwy o beirianwyr rhagorol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.