Y Frenhines Elizabeth II

09 Medi 2022

Neges gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts, Cadeirydd y Cyngor, a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor. 

"Mae’r newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn achos tristwch mawr, ac, ar ran Prifysgol Aberystwyth, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â’i theulu ar yr adeg anodd  hon. 

Mae'r Frenhines Elizabeth II wedi perfformio’r rôl gyfansoddiadol uchaf gydag urddas a rhadlonrwydd am gyfnod rhyfeddol, gan rychwantu'r rhan fwyaf o'n hoes.  Rydym oll yn cydnabod ei hymroddiad i wasanaethu ar hyd ei hoes a’i hymroddiad at ei theulu.  

Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff dalu teyrnged a mynegi eu cydymdeimlad dros y dyddiau nesaf."