Academydd o Aberystwyth yn curadu rhaglen gŵyl ffilmiau sy’n dathlu ffilmiau menywod
Dr Kim Knowles
28 Gorffennaf 2022
Curadwyd yr arlwy ôl-syllol yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin eleni gan Dr Kim Knowles, arbenigwr ffilm arbrofol o Brifysgol Aberystwyth.
Mae ‘Reframing the Gaze: Experiments in Women’s Filmmaking from 1972 to Now’ yn nodi 50 mlynedd ers Digwyddiad chwedlonol y Merched ym 1972, a drefnwyd gan yr ysgolheigion ffilm Laura Mulvey a Claire Johnson, ynghyd â Chyfarwyddwr Creadigol yr Ŵyl bryd hynny, Lynda Myles.
Mae'r rhaglen yn tynnu ynghyd ddetholiad o weithiau hir a byr sy'n pwysleisio pwysigrwydd arbrofi ffurfiol a mentro mewn modd creadigol. Mae’n dangos sut mae artistiaid benywaidd, a’r rhai sy’n eu hadnabod eu hunain fel menywod, wedi gwyrdroi diwylliant ffilmiau patriarchaidd trwy arloesi mewn iaith ffilm.
Mae'r wyth rhaglen yn rhychwantu dros bum degawd, ac mae’n cynnwys ffilmiau o'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, Awstria, Twrci a'r Ariannin.
Mae Dr Knowles yn gweithio fel Rhaglennydd Ffilmiau Arbrofol yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin ers 2008, ac mae'n Uwch Ddarlithydd Ffilmiau Amgen ac Arbrofol yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth.
Dywedodd: "Mae'r rhaglen yn edrych yn ôl i’r digwyddiad hwnnw ym 1972, ond mae hefyd yn dathlu'r 1970au yn fwy cyffredinol fel degawd allweddol yn hanes sinema merched ac yn natblygiad theori ffilm ffeministaidd. Roeddwn am ymdrin â’r rhaglen ôl-syllol hon mewn modd anghonfensiynol. Mae gwaith Mulvey yn wastad wedi fy ysbrydoli, ond nid yw ei ffilmiau mor adnabyddus â'i hysgrifennu. Riddles of the Sphinx a’m sbardunodd, ac fe’m hanfonwyd mewn sawl cyfeiriad gwahanol!"
Noddir y digwyddiad gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o becyn 3 blynedd sy'n caniatáu i fyfyrwyr ymweld â'r ŵyl â phàs cynrychiolydd, ac sy’n cynnig lleoliadau hyfforddi i fyfyrwyr yr Adran er mwyn iddynt ddysgu am waith curadu a beirniadu ffilmiau.
Cynhelir 75ain Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin rhwng y 12fed a’r 20fed o Awst 2022.