Myfyrwyr yr UDA ar gwrs Fulbright mawreddog yn Aberystwyth i ddysgu am amaeth yn y DG
Dr Manod Williams gyda’r myfyrwyr ar y cwrs haf Fulbright.
14 Gorffennaf 2022
Mae grŵp o fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau sydd ar gwrs haf sy’n adnabyddus yn fyd-eang wedi dechrau dysgu am amaeth y Deyrnas Gyfunol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r rhai sydd ar Gwrs Haf Fulbright y DG ar raglen academaidd a diwylliannol dair wythnos o hyd sy’n canolbwyntio ar faterion amaethyddol cyfoes.
Cafodd Rhaglen Fulbright ei chreu ym 1946 yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, a chreodd cytundeb rhwng llywodraethau’r DU a’r Unol Daleithiau un o raglenni Fulbright cyntaf y byd.
Mae’n cefnogi cyfnewid addysg rhwng pobl dalentog o bob oed a chefndir rhwng y DG a’r UDA, gan alluogi astudio, addysgu ac ymchwil yn rhai o brifysgolion mwyaf cyffrous y byd drwy ysgoloriaethau, cyngor, hyfforddiant a dysgu drwy brofiad.
Bydd y myfyrwyr o’r Unol Daleithiau yn astudio yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, a newid hinsawdd. Mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, a Chanolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON.
Bydd y cwrs haf yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr am systemau defnydd tir a chynhyrchu amaethyddol gan ganolbwyntio ar amaethyddiaeth da byw, defnydd tir âr, a chadwraeth.
Dywedodd Dr Manod Williams o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae meithrin perthynas rhwng Aberystwyth a gweddill y byd yn un o’r breintiau a ddaw gyda bod yn academydd yma. Mae gan Gyrsiau Haf Fulbright hanes hir a disglair - mae'n anrhydedd fawr bod yn rhan ohoni.
“Mae cymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid hon hefyd yn gyfle gwych i ddangos rhai o’r cyfleusterau a’r sector amaethyddol rhagorol sydd gennym yma yn Aberystwyth a’r wlad yn ehangach. Bydd y myfyrwyr yn cael blas ar y Sioe Fawr ac yn cael dysgu ychydig o'r iaith. Mae’n gyfle gwych i gryfhau’r cysylltiadau diwylliannol ac addysgol rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.”
Ers ei sefydlu, mae miloedd o fyfyrwyr America a'r DU wedi elwa o’r cyfle mae Rhaglen Fulbright yn ei chynnig i astudio yng ngwledydd ei gilydd. Heddiw, hi yw’r unig raglen gyfnewid sy'n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr ac ysgolheigion ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd.
Dywedodd un o’r myfyrwyr, Nicholas Blumenthal o Brifysgol Florida:
“Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu am sawl agwedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru a’r DU. Fy mhrif ddiddordebau yw diogelwch bwyd a dwi am ddysgu mwy am yr agwedd hon, rhywbeth nad ydw i wedi cael cyfle i ddysgu amdano fe yn ôl adref.”
Daw'r myfyrwyr gwadd o Brifysgol Maryland, Prifysgol Talaith Arizona, Coleg Roanoke, Prifysgol De Carolina, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Talaith Mississippi, a Phrifysgol Talaith Gogledd Carolina.