Barnwr Nodedig Llys Apêl Malaysia yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd
Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera
12 Gorffennaf 2022
Mae cyn-fyfyriwr y Gyfraith o Aberystwyth, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i broffesiwn y gyfraith ym Malaysia, wedi’i anrhydeddu’n Gymrawd.
Ar ôl graddio yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth yn 1989, bu'r Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera yn ymarfer y gyfraith mewn cwmnïau preifat am tuag 20 mlynedd.
Ac yntau’n aelod gweithgar o Gyngor y Bar yn Malaysia, roedd yn Drysorydd (2005-2007), Cadeirydd Bar y Wladwriaeth (2004-2007) ac yn Hyfforddwr Eiriolaeth cymwys.
Fe'i penodwyd yn Gomisiynydd Barnwrol yn 2010 ac fe'i dyrchafwyd yn Farnwr yn yr Uchel Lys yn 2015.
Bu'n gwasanaethu yn Uchel Lysoedd Penang, Kuala Lumpur a Shah Alam ac roedd yn Uwch Farnwr yn yr Uchel Lys yn Melaka.
Fe'i penodwyd yn Farnwr yn y Llys Apêl yn 2019, ac yno y mae’n gwasanaethu ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn Athro Cynorthwyol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Monash Malaysia.
Yn sgil ei wasanaeth nodedig, dyfarnwyd iddo wobrau Brenhinol a Gwladol Darjah Setia Pangkuan Negeri (DSPN) (Penang), Darjah Indera Mahkota Pahang (DIMP) a Darjah Mulia Seri Melaka (DMSM), pob un ohonynt â’r teitl Datuk neu Dato'.
Mae wedi bod yn aelod o Glwb Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn Malaysia ers dros dri degawd.
Cyflwynwyd yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera gan yr Athro John Williams, Athro Emeritws o Adran y Gyfraith a Throseddeg ar ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022.
Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.
Cyflwyno yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera gan Yr Athro John Williams:
Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Vazeer Alam yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Vazeer Alam as a Fellow of Aberystwyth University.
Datuk Vazeer Alam bin Mydin Meera left his home in Penang in Malaysia for Aberystwyth in 1987. He graduated from the Department of Law at what was then the University College of Wales, Aberystwyth. He is part of a strong tradition of eminent Malaysians who studied at Aberystwyth, including many who were prominent in forming the state of Malaysia following independence in 1957.
Vazeer, or Vaz as his friends affectionately know him, enjoyed the Aber student experience. Hard work was supplemented by building up many friendships with students from all over the world. He involved himself in the life of the Department and is remembered with fondness not only for his commitment to his studies but also as a likeable and engaging student.
Following his graduation in 1989 with an LL.B (Wales) degree, he returned home to Malaysia and studied for the Malaysian Bar Finals. He then embarked upon a successful career in private practice for over twenty years, joining many other Aber lawyers in Malaysia. In addition to practising law, he was an active member of the Malaysian Bar Council, including being Treasurer and State Bar Chair.
His abilities were recognised at an early stage of his career. In 2010 he was appointed a Judicial Commissioner; the first step on the judicial ladder. He came to the judiciary's attention and in 2015 became a permanent judge of the High Court. I recall the pleasure that his appointment to the Court gave to his friends and colleagues. An elevation he richly deserved.
His judicial career did not stop there. Four years later Vazeer was appointed a justice in the Court of Appeal, the second most senior court in the Malaysian Judicial hierarchy. The Court hears appeals from the High Court on civil and criminal matters and consists only of judges of the highest standing. Aberystwyth can be proud that he is one of the leading lawyers in Malaysia.
His contributions to legal Malaysia have been recognised through the many Royal and State honours conferred upon him. His scholarship is recognised by his appointment as Adjunct Professor at the School of Business, Monash University in Malaysia.
Vazeer is committed to passing on his experience to the next generation of lawyers. For example, he is a member of the International Advocacy Training Council which provides advocacy training for young lawyers.
For over thirty years Vaz has been an active member of the Aberystwyth Alumni club in Malaysia.
He serves as a role model for current and future generations of Malaysian graduates.
Vaz has not lost the passion for the law that he nurtured at Aberystwyth. A senior lawyer in Malaysia said of him,
“Vaz is well-liked by practitioners for his judicial temperament and admired for the clarity of his judgements. In short, he is a great ambassador for Aberystwyth and a great asset to the justice system in Malaysia. Both should be immensely proud of his achievements.”
Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Vazeer Alam i chi yn Gymrawd.
Chancellor, it is my absolute pleasure to present Vazeer Alam to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2022
Yn rhan o'r seremonïau graddio bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno deg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd.
Mae'r Cymrodyr eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, a'r sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.
Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2022 (yn y drefn y’u cyflwynir):
- Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yr aelod dros Gymru ar y Bwrdd hwnnw
- Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru
- Yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia
- Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn
- Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Institute of Making’
- Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru
- Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.
- Tom Jones OBE, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu
- Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Hen Feili”
- Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru