Myrddin ap Dafydd yn cael ei dderbyn yn Gymrawd

Meri Huws, aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth, gyda Myrddin ap Dafydd

Meri Huws, aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth, gyda Myrddin ap Dafydd

11 Gorffennaf 2022

Mae’r bardd a’r cyhoeddwyr, Myrddin ap Dafydd wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth, fel rhan o seremonïau graddio’r haf hwn.

Cafodd Myrddin ei fagu a’i addysgu yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, ac mae’n fab i lyfrwerthwyr.

Ar ôl cyfnod ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (1974-79), fe sefydlodd Wasg Carreg Gwalch yn 1980, un o gyhoeddwyr pennaf a phrysuraf Cymru.

Enillodd y Gadair yn y Genedlaethol ddwywaith, yng Nghwm Rhymni yn 1990 ac yn Nhyddewi yn 2002, ac mae’n feistr ar y mesurau caeth ac yn arbrofi dipyn arnynt.

Fe oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn 2000-2001 ac mae ei waith yn paratoi cerddi i bobl ifainc, yn ogystal â’i gyfraniadau at gynnyrch tîm y Tir Mawr yn y Talwrn, wedi hogi ei ddiddordeb mewn amryw fesurau barddol. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth i oedolion a phlant.

Yn 2019 fe’i hurddwyd yn Archdderwydd Cymru, a bydd yn llywyddu seremonïau pwysicaf yr Eisteddfod Genedlaethol yr haf hwn yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst, gan gynnwys y coroni, seremoni’r Prif Lenor a’r cadeirio.

Cyflwynwyd Myrddin ap Dafydd gan Eurig Salisbury o’r Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Myrddin ap Dafydd gan Eurig Salisbury:

Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor, Is-Ganghellor, ddarpar raddedigion a chyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Myrddin ap Dafydd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Deputy Chair of Council, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Myrddin ap Dafydd as a Fellow of Aberystwyth University.

Go brin fod neb sy’n gwybod y peth lleiaf am ddiwylliant Cymru heb glywed enw Myrddin ap Dafydd. Fel bardd a chyhoeddwr, mae ei enw gyfystyr â barddoniaeth gyfoes, fyw a llyfr da. Mae ei ddylanwad yn fawr ar genedlaethau o Gymry, ac nid yn lleiaf arnaf i fy hun. Fel llawer bardd arall, mi ddysgais i reolau’r gynghanedd drwy ddarllen cyfrol Myrddin, Clywed Cynghanedd, canllaw modern i gerdd dafod sy’n dangos gallu Myrddin i gyflwyno hen grefft mewn ffordd gwbl gyfoes a pherthnasol i ni heddiw. Os oes gen i athro barddol, felly, Myrddin yw hwnnw, ac mae’n bleser gen i ei gyflwyno heddiw.

Cafodd Myrddin ei fagu yn Llanrwst, yn fab i ddau a wnaeth lawer iawn i roi’r diwydiant llyfrau Cymraeg ar ei draed yn y pumdegau. Yn ôl Myrddin, ‘llyfrau oedd fy nheganau i yn blentyn’, a does ryfedd iddo ddilyn ei rieni i fyd llyfrau maes o law a dod yn ddyn busnes hirben. Daeth i Aberystwyth yn fyfyriwr am bum mlynedd ddiwedd y saithdegau, cyn symud yn ôl i Lanrwst yn 1980 a sefydlu ei wasg ei hun, sef Gwasg Carreg Gwalch. Mae’r busnes hwnnw’n dal i fynd o nerth i nerth, ac yn un o gyhoeddwyr mwyaf llwyddiannus Cymru.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 1990, enillodd Myrddin Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghwm Rhymni, ac ailadrodd y gamp yn Nhyddewi yn 2002. Yn ogystal â bod yn feistr ar fesurau traddodiadol y cywydd a’r englyn, mae Myrddin yn enwog hefyd am wneud defnydd helaeth a dyfeisgar o lawer o fesurau caeth a rhydd. Ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru rhwng y flwyddyn 2000 a 2001, ac mae wedi cyhoeddi cannoedd o gerddi o’i eiddo ei hun i blant a llawer iawn o feirdd eraill.

Mae’n aelod o dîm y Tir Mawr ar raglen radio Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, un o dimau mwyaf llwyddiannus y gystadleuaeth honno, ac mae’n un o syflaenwyr y cwmni llwyddiannus Cwrw Llŷn. Mae hefyd yn gyfrannwr cyson i gylchgronau a phapurau bro ac yn awdur llawer iawn o lyfrau rhyddiaith i oedolion ac i blant. Myrddin hefyd yw Archdderwydd Gorsedd Cymru, swydd y mae wedi ei dal ers 2019, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Bydd yn llywyddu yn ei ail Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ymhen ychydig wythnosau.

Mi fentra’i ddweud fod Myrddin yn arbennig am ei fod yn cyfuno mewn ffordd mor ddiymdrech y lleol, y cenedlaethol a’r rhyngwladol. Mae’n adnabod ei fro fel cefn ei law, mae’n adnabod rhai corneli eraill o Gymru’n well na’r bobl sy’n byw yno, ac mae’n gwbl Ewropeaidd hefyd yn ei olwg ar y byd. Mewn gair, mae’n ddyn pobl, un cadarn ei egwyddorion ac agored ei feddwl.

Yn ei eiriau ei hun, ‘mi fûm yn werthwr petrol ym Metws-y-coed, hogyn brecwast a the i gang o nafis, labrwr codi stondinau ar faes Steddfod, paentiwr tai a chariwr bêls. Mae rhyw grefft i bob gwaith ac mae rhywun ar ei ennill o gymysgu gyda gweithwyr mewn pob math o wahanol swyddi.’ Bellach, mi fedrwch chi ychwanegu’n llawen at y pethau hynny, Cymrawd yn y Brifysgol hon.

Un tro i astudio doist ti – i Aber,

        Ond Aber eleni

    Sy’n dod drachefn i godi

    Ei chap i’n Myrddin ap ni.

Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor, mae’n bleser gen i gyflwyno Myrddin ap Dafydd i chi’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Deputy Chair of Council, it is my absolute pleasure to present Myrddin ap Dafydd to you as a Fellow of Aberystwyth University.


Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2022

Yn rhan o'r seremonïau graddio bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno deg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd.  

Mae'r Cymrodyr eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, a'r sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2022 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yr aelod dros Gymru ar y Bwrdd hwnnw
  • Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru
  • Yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia
  • Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn
  • Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Institute of Making’
  • Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru
  • Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.
  • Tom Jones OBE, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Hen Feili”
  • Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru

Eurig Salisbury (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd), Myrddin ap Dafydd, Yr Athro Elizabeth Treasure (Is-Ganghellor), Meri Huws (Aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth)

Myrddin ap Dafydd