Prifysgol Aberystwyth ar Faes y Sioe Fawr
IBERS
07 Gorffennaf 2022
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn arwain nifer o drafodaethau ar ddyfodol amaeth yn y Sioe Fawr, o gyrraedd targedau sero net, i daclo TB mewn gwartheg ac adeiladu cymunedau gwledig cynaliadwy.
Yn y trafodaethau ar TB Gwartheg, fe ddaw ffermwyr, milfeddygon ac ymchwilwyr gwyddonol o’r Brifysgol at ei gilydd i drafod y camau nesaf yn broses o ddileu TB a chynhelir digwyddiad am rôl milfeddygon yn yr ymdrechion i fynd i afael â hyn hefyd.
Bydd cyfle hefyd i gael blas ar waith unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru a agorodd y llynedd ar stondin y Brifysgol.
Bydd cyfle i weld y byd drwy lygaid pobl hŷn drwy Gyfarpar Efelychu Oedran Ysgol Nyrsio Aberystwyth a fydd yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi eleni.
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n gyffrous iawn i ni allu cwrdd unwaith eto yn y Sioe Fawr wedi tair blynedd o seibiant. Rydym yn ffodus yn Aberystwyth o fod wedi elwa o nifer o ddatblygiadau cyffrous yn ddiweddar, gan gynnwys sefydlu’r unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol yng Nghymru'r flwyddyn academaidd hon.
“Heb os nac oni bai, mae’r Sioe Fawr yn un o uchafbwyntiau calendr Prifysgol Aberystwyth ac yn gyfle da i dynnu sylw at yr ymchwil arloesol ddiweddaraf ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i ehangu eu gorwelion a manteisio ar arlwy academaidd ragorol y Coleg Ger y Lli. Rydym yn cynnal ymchwil o'r radd flaenaf yma yn Aberystwyth yn y maes iechyd anifeiliaid ac amaethyddiaeth gan arbenigwyr sy’n arwain yn eu meysydd, gyda newidiadau cadarnhaol yn lleol ac yn rhyngwladol.
“Ymunwch yn y bwrlwm, galwch draw i’n gweld, rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod ymwelwyr hen a newydd yn Llanelwedd.”
Rhaglen Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Fawr(Pafiliwn Addysg C500):
Am 3yp ddyddLlun 18 Gorffennaf, cynhelir trafodaeth am Fiowyddoniaeth ar gyfer Sero Net gyda Aled Jones, Llywydd NFU Cymru; Ian Rickman, Dirprwy Lywydd UAC (FUW); Paul Billings, Rheolwr Gyfarwyddwr Germinal GB; Harriet Trewin, BBSRC a’r Athro Iain Donnison.
Ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf am 9:30yb, cynhelir sesiwn am Ddychmygu'r Dyfodol Gwledig gan yr Hwb Dyfodolau Gwledig.
Am 11.30yb yr un dydd, bydd prosiect BEACON yn cynnal sesiwn panel o’r enw “Oes Modd Ei Chael Hi Bob Ffordd? Amaethyddiaeth ac Adeiladu'r Bioeconomi” gyda Dr Jonathan Scurlock, NFU; Teleri Fielden, UAC (FUW); John Richards, HCC; Dr Jonathan Hughes, Pennotec; a’r Athro Joe Gallagher.
Am 2yp cynhelir digwyddiad am gymwysterau, darpariaeth ac adnoddau amaeth Cymraeg a dwyieithog ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol gan y Coleg Cymraeg a Chymwysterau Cymru.
Am 3 o’r gloch, bydd BioArloesi Cymru yn cynnal digwyddiad Bwyd a Ffermio Sero Net ar stondin Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (CCA790) yn ardal Gofal Cefn Gwlad y Sioe, gyda Ed Morgan Castell Howell.
Ar ddydd Mercher 20 Gorffennaf, bydd dwy sesiwn am TB Gwartheg, gydag un yn trafod rôl y milfeddyg am 11:45yb a ddilynir gan ddigwyddiad ymwneud â rhanddeiliaid a gynhelir gan Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Sêr Cymru Prifysgol Aberystwyth.
Bydd gan Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol stondin (CCA790) yn ardal Gofal Cefn Gwlad y Sioe yn ogystal, gan gynnig y cyfle i drafod yr ymchwil diweddaraf ym maes amaethyddiaeth gydag arbenigwyr yn cynnwys y mathau porthiant diweddaraf, priddoedd iach, ceirch iach a biodanwydd.