LabTraeth yn dychwelyd i lan y môr Aberystwyth i ddathlu creadigrwydd roboteg

LabTraeth 2018, ar y Prom Aberystwyth

LabTraeth 2018, ar y Prom Aberystwyth

06 Mehefin 2022

Bydd robotiaid o bob math, o rai ‘agerstalwm’ (steampunck) i longau tanfor, yn dychwelyd i lan môr Aberystwyth am y tro cyntaf ers tair blynedd wrth i LabTraeth ddychwelyd i ganol y dref.

Mae'r dathliad blynyddol poblogaidd o bopeth yn ymwneud â robotiaid yn denu miloedd o bobl o bob rhan o'r wlad i chwarae gyda robotiaid a dysgu am sut maent yn cael ei defnyddio mewn gwahanol feysydd. Mae'n arddangos creadigrwydd yn y maes ac yn gyfle i weld robotiaid tir, môr ac awyr.

Mae’r orymdaith o awtomatoniaid, sy’n cael ei chynnal yn y Bandstand Aberystwyth ar 18 Mehefin, hefyd yn cynnwys creadigaethau gan y tad a’r mab Stephen a Tomos Fearn, sydd wedi eu hysbrydoli gan Doctor Who, yn ogystal â Dizzy, fersiwn agerstalwm o R2D2 a BB-8 o Star Wars.

Dros y blynyddoedd, gwelodd LabTraeth gyfraniadau nodedig, gan gynnwys y perfformiad cyhoeddus cyntaf gan gerddorfa roboteg, a aeth ymlaen i ymddangos yn Narlith Nadolig y Sefydliadau Brenhinol ac a ddarlledwyd ar y BBC.

Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfraniad Prifysgol Aberystwyth i Wythnos Roboteg y DU (18-24 Mehefin). Yn ogystal â chyfle i weld rhai o ddatblygiadau roboteg diweddaraf y Brifysgol, bydd gweithdai a gweithgareddau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos a fydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor ar adeiladu a rhaglennu robotiaid.

Dywedodd Dr Patricia Shaw, trefnydd Wythnos Roboteg Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn bod LabTraeth yn dychwelyd i’w chartref arferol ar lan y môr Aberystwyth. Mae’n draddodiad Prifysgol pwysig sy’n cynnig cyfle i’r cyhoedd gael profiad ymarferol o’r hyn rydym yn ei wneud yn y Brifysgol a’r hyn y gall robotiaid ei wneud. Mae’n dangos sut mae robotiaid yn gallu gwneud llawer mwy na’r hyn y mae pobl ei dybio, boed hynny’n waith ym maes gofal iechyd, archwilio neu ddiogelwch.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil roboteg flaenllaw yn y DU ac mae digwyddiadau fel hwn yn hollbwysig er mwyn dal dychymyg pobl ifanc. Gallant gael profiad ymarferol gyda'n tîm o robotiaid, siarad â'r bobl sydd wedi eu hadeiladu, a chael hwyl gyda'r gwahanol weithgareddau y byddwn yn eu cynnig. Bydd rhai ohonyn nhw’n mynd ymlaen i fod yn ymchwilwyr ym maes roboteg, gan ddod â buddion i gymdeithas na allwn ond breuddwydio amdanynt heddiw.”

I gael rhagor o wybodaeth am LabTraeth ac Wythnos Roboteg Aberystwyth ewch i https://fbaps-outreach-hub.dcs.aber.ac.uk/Events/RoboticsWeek/2022/detailsCy.html, tudalen Facebook y digwyddiad https://www.facebook.com/aberroboticsweek, e-bostiwch roboticsweek@aber.ac.uk , neu dilynwch #WythnosRobotegAber ar Twitter.

Cefnogir Wythnos Roboteg Aberystwyth 2022 gan Rwydwaith UK-RAS a BCS Y Sefydliad Siartredig TG.