Myfyriwr Aberystwyth yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd

Twm Ebbsworth (Credyd: Urdd Gobaith Cymru)

Twm Ebbsworth (Credyd: Urdd Gobaith Cymru)

06 Mehefin 2022

Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dinbych.

Daw Twm Ebbsworth o bentref Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion, ac mae'n astudio cwrs ôl-radd mewn ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ef ei goroni fel Prif Lenor yr ŵyl am ysgrifennu darn o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema Llen/Llenni.

Yn ôl y beirniad, roedd hwn yn waith “llenor aeddfed a chrefftus” ac “yn ddarn gwahanol iawn yn llawn hiwmor”.

Dywedodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Dr Cathryn Charnell-White:

“Mae pawb yn yr Adran a’r Brifysgol yn hynod falch o lwyddiant Twm. Rydym wrth ein boddau yn gweld un o’n myfyrwyr yn cael cydnabyddiaeth o’r fath ar lwyfan cenedlaethol. Llongyfarchiadau calonnog iawn i Twm – mae’n llawn haeddu’r wobr hon a’r fraint o fod yn un o enillwyr eisteddfod canmlwyddiant yr Urdd.”

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r gorau yn ei maes yn y DU am fodlonrwydd Myfyrwyr ac ansawdd y dysgu yn ol The Times/Sunday Times Good University Guide 2022.