Llety myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yw’r gorau yn y DU

Chwith i’r dde: Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth Adrian Sutton, Beth Roberts, Faye Ap Geraint a Tamas Gyorgy yn derbyn gwobr Whatuni Student Choice am y Neuaddau Preswyl a Llety Myfyrwyr gorau oddi wrth yr actor Richard Ayoade (ail o’r chwith).

Chwith i’r dde: Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth Adrian Sutton, Beth Roberts, Faye Ap Geraint a Tamas Gyorgy yn derbyn gwobr Whatuni Student Choice am y Neuaddau Preswyl a Llety Myfyrwyr gorau oddi wrth yr actor Richard Ayoade (ail o’r chwith).

26 Mai 2022

Llety myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yw’r gorau yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl Whatuni, y wefan adolygiadau myfyrwyr.

Cafodd gwobr Whatuni Student Choice am y Neuaddau Preswyl a Llety Myfyrwyr am 2022 ei chyflwyno i gynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth mewn seremoni gyda’r actor Richard Ayoade yn Canary Warf, Llundain ddydd Mawrth 24 Mai.

Bellach yn eu 10fed blwyddyn, mae gwobrau Whatuni yn rhoi sylw i’r gwaith mae sefydliadau yn ei wneud ar gyfer eu myfyrwyr, ac wedi coladu o dros 30,000 o adolygiadau gwirioneddol gan fyfyrwyr, a gasglwyd o gampysau ledled y DU a chan fyfyrwyr sy'n defnyddio gwefan Whatuni.

Yn ogystal â bod yn un o ddeg prifysgol i gyrraedd rhestr fer gwobr Neuaddau a Llety Myfyrwyr, roedd Aberystwyth hefyd ar y rhestr fer yn y categorïau ‘Ansawdd Dysgu ac Addysgu’ a ‘Bywyd Myfyrwyr’.

Mewn adolygiad o neuaddau Prifysgol Aberystwyth gan fyfyriwr a bostiwyd ar Whatuni, dywedwyd: “Neuaddau preswyl gwych, newydd iawn pan arhosais yno ond yn rhad iawn o gymharu â phrifysgol arall. Roedd yn lân iawn ar ôl cyrraedd, llawer o ychwanegiadau gwych fel ystafelloedd ymolchi en-suite a pheiriannau golchi llestri.”

Dywedodd Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y profiad myfyrwyr rydym yn ei gynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddianol o waith gwych y tîm llety a phreswylfeydd sy’n darparu gwasanaeth rhagorol i’n myfyrwyr, y mae eu hymrwymiad wedi bod yn eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ystod cyfyngiadau COVID-19. Mae llety o safon yn eithriadol bwysig i’n myfyrwyr wrth iddynt addasu i fyw oddi cartref, yn aml am y tro cyntaf, ac yn eu galluogi i wneud yn fawr o’u profiad prifysgol, yn gymdeithasol ac yn academaidd.”

Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol IDP Connect, perchnogion Whatuni: “Mae’r miloedd o adolygiadau myfyrwyr Whatuni rydym wedi’u derbyn gan fyfyrwyr o bob cwr o’r DU yn adlewyrchu’r ymrwymiad rhyfeddol, yr angerdd a’r gofal y mae sefydliadau wedi’u dangos tuag at eu myfyrwyr dros y 12 mis diwethaf. Mae’r sector addysg uwch yn creu profiadau eithriadol i fyfyrwyr ac mae gwobrau Whatuni yn ddathliad o hynny a sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth sydd ei angen arnynt i wneud y penderfyniadau gorau am eu dyfodol.

“Wrth i brifysgolion barhau i frwydro yn erbyn heriau Covid, bydd y gwobrau hyn yn hwb enfawr i brifysgolion a cholegau sy'n arwain y ffordd o ran boddhad myfyrwyr. Bydd y canlyniadau amhrisiadwy hyn yn helpu myfyrwyr i wneud y dewis gorau am eu camau nesaf i addysg uwch.

“Mae pob un o’n henillwyr a’r rhai ar y rhestr fer wedi mynd tu hwnt i’r galw i sicrhau profiadau prifysgol cadarnhaol i’w myfyrwyr ac mae hyn yn dangos ansawdd addysg uwch yn y DU a’i chreadigrwydd, ei gwydnwch a’i harloesedd.”

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi dros £60m mewn llety myfyrwyr newydd ac uwchraddedig yn y blynyddoedd diwethaf.

Croesawodd Fferm Penglais, a ddatblygwyd ar gost o £45m ac sy’n cynnig ystafelloedd en-suite a fflatiau stiwdio i 1000 o fyfyrwyr, ei thrigolion cyntaf yn 2015, ac ail-agorwyd neuadd breswyl Pantycelyn ym mis Medi 2020 yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £16.5m.

Mae manylion llawn am lety a phreswylfeydd Prifysgol Aberystwyth ar gael ar-lein gyda’r mwyafrif o fewn pellter cerdded hawdd i’r prif gampws addysgu, Penglais.