Archwilio dyfodol Cymru ar ôl COVID-19 yng nghynhadledd ymchwil Aberystwyth
Bydd dyfodol Cymru ar ôl COVID-19, effeithiau’r pandemig ar strydoedd mawr mewn trefi bychain, myfyrwyr sy’n rhieni a chwaraeon gwledig, a sut i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy ymhlith y pynciau a archwilir mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth (dydd Iau 19 Mai).
Dan y teitl “Adfywio cymunedol ar ôl COVID-19: heriau a chyfleoedd”, bydd y gynhadledd ar-lein yn dod ag academyddion o Ysgol Busnes y Brifysgol ac adrannau celfyddydau a dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol ynghyd.
Bydd academyddion o Brifysgol Bangor, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Choleg Prifysgol Corc yn ymuno â nhw.
Yn ei brif gyflwyniad, bydd yr Athro Michael Woods, Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn trafod sut mae’r pandemig wedi effeithio ar Gymru wledig ac wedi dwysáu problemau presennol.
Dywedodd yr Athro Michael Woods: “Mae’r pandemig yn amlygu gwendidau hirsefydlog yn yr economi wledig, hyd yn oed wrth i gymdeithas symud yn ôl tuag at rywfaint o normalrwydd cymharol. Mae materion fel sgiliau, diffyg seilwaith digidol, twristiaeth gynaliadwy a thai fforddiadwy yn parhau i effeithio ar ddinasyddion Cymru ledled y wlad.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i archwilio’r materion hyn, eu cadw yn llygad y cyhoedd a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i wneud Cymru’n economi fwy cadarn ac yn benodol arfogi cymunedau gwledig i ymdopi â heriau’r dyfodol.”
Mae’r materion hyn yn cynnwys anghydraddoldeb o ran mynediad band eang, gofal iechyd a thai.
Bydd Lee Philips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn neilltuo’r ail brif gyflwyniad i archwilio strategaeth llesiant ariannol y Deyrnas Unedig.
Bydd sgyrsiau eraill yn cael eu grwpio o dan themâu cynaliadwyedd ac adfywio, datblygu cymunedol, lles, ac arweinyddiaeth a grym.
Mae’r rhain yn cynnwys ‘Effaith COVID-19 ar y stryd fawr mewn trefi bychain’ gan Dr Matthew Price, ‘Rôl menter gymdeithasol mewn datblygu cymunedol’ gan Dr Nerys Fuller-Love, a ‘Datblygu cymunedol ar ôl COVID-19’ gan Dr Sophie Bennett-Gillison. Mae trafodaethau eraill yn cynnwys ‘Effeithiau COVID-19 ar chwaraeon gwledig’ gan Dr Julie Jones, ‘Ymarfer llenyddol mewn datblygu cymunedol’ gan Dr Matt Jarvis, a ‘Datblygu parc cefn gwlad’ gan Dr Lyndon Murphy.
Mae’r gynhadledd yn cael ei rhedeg gan Ganolfan Creadigrwydd, Arweinyddiaeth ac Economïau Rhanbarthol (CLaRE) Ysgol Busnes Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd yn 2006 i astudio economi Cymru, yn benodol mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd yr Athro Andrew Thomas, Athro Rheolaeth Beirianneg a Phennaeth Ysgol Busnes Aberystwyth: “Ers ei ffurfio, mae CLaRE wedi chwarae rhan allweddol wrth adeiladu llwyfan ar gyfer ymchwil trawsddisgyblaethol i arfer sefydliadol a pholisi, adfywio cymunedol a lleol a gwerth meddwl yn greadigol ar lefel leol, rhanbarthol a rhyngwladol.
“Bydd y gynhadledd hon yn tanlinellu sut mae angen dulliau creadigol mewn strategaeth, strwythur ac arweinyddiaeth mewn cymdeithas ôl-COVID, yn ogystal â dangos sut mae angen dealltwriaeth ddyfnach o wahanol amgylcheddau y mae cymunedau yn gweithredu ynddynt.”