Ethol academyddion o Aberystwyth yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

31 Mai 2022

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi pedwar academydd o Brifysgol Aberystwyth ymhlith ei Chymrodyr etholedig newydd.

Mae’r Athro Iain Donnison, yr Athro Rhys Jones, yr Athro Colin McInnes a’r Dr Eryn White ymhlith chew-deg-chwech o Gymrodyr newydd sydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd ar draws y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a thu hwnt.

Mae’r Athro Iain Donnison yn bennaeth yr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae’n wyddonydd planhigion ac amaeth, yn arbenigwyr ar borfeydd trofannol a thymherus, ac mae ei waith yn canolbwyntio ar strategaethau ar gyfer addasu i, a lliniaru, effeithiau newid hinsawdd.

Mae’r Athro Rhys Jones yn gyn Bennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac yn ddaearyddwr dynol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth hunaniaeth grwpiau gyda sylw penodol ar ddaearyddiaeth cenedlaetholdeb Cymreig a’r ffordd y mae wedi ei ffurfio gan leoliad.

Mae’r Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd, yn awdurdod ar faterion yn ymwneud ag iechyd byd-eang a diogelwch, ac yn gyd-olygydd yr Oxford Handbook on Global Health Politics.

Mae Dr Eryn White yn Ddarllenydd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac yn hanesydd y cyfnod modern cynnar yng Nghymru. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn crefydd a chymdeithas, gan ganolbwyntio ar arwyddocâd y diwylliant print a thwf Anghydffurfiaeth.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Daw ei Chymrodoriaeth ag arbenigwyr at ei gilydd o bob maes academaidd a thu hwnt a defnyddir yr wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Estynnaf ein llongyfarchiadau cynhesaf at ein cydweithwyr sydd wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni. Mae hyn yn gydnabyddiaeth llwyr haeddiannol am eu cyfraniadau at fywyd academaidd Cymru a’u hymroddiad at ragoriaeth yn eu disgyblaethau academaidd perthnasol.”

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:  “Mae gwybodaeth arbenigol ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae ystod yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i gwrdd â’r heriau amgylcheddol, technegol, cymdeithasol, diwylliannol ac iechyd sy’n ein hwynebu.

“Mae gallu’r Gymdeithas i ddod â’r bobl dalentog yma at ei gilydd yn ein caniatáu i ddechrau a dylanwadu ar ddadleuon pwysig am sut mae Cymru, y DU a’r byd yn gallu llywio’r dyfroedd tymhestlog sydd o’n blaen heddiw.

”Rwy’n falch iawn bod 50% o’n Cymrodyr yn fenywod. Mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau cwrdd â’n hymrwymiadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae yna waith i’w wneud eto, wrth i ni weithio i sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ond mae hwn yn gam pwysig.”

Mae rhestr lawn o’r Cymrodyr newydd yn cynnwys eu sefydliadau a meysydd Ymchwil, ar gael i’w lawrlwytho yma.