Aber yn y Gelli
Credyd: Sam Hardwick
29 Ebrill 2022
Datblygu robotiaid mwy cyfeillgar a chymdeithasol, 40 mlynedd o deledu Cymraeg, a chwedlau hanesyddol am y corff dynol fydd rhai o'r pynciau a fydd yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn y 35ain Gŵyl y Gelli.
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o raglen yr ŵyl eleni, yn rhan o bartneriaeth barhaus y Brifysgol â'r achlysur diwylliannol a llenyddol nodedig hwn.
Rhwng 26 Mai–5 Mehefin, yng ngŵyl syniadau fwyaf blaenllaw'r byd yn y Gelli Gandryll, bydd darllenwyr ac awduron yn dod ynghyd yn nigwyddiadau cynaliadwy Gŵyl y Gelli 2022 i ysbrydoli, archwilio a diddanu.
Yn ei sgwrs 'Social Computers and Conversational Robots: Imagining a new path towards human-centred technology', bydd Mark Lee, Athro Emeritws Systemau Deallus yn yr Adran Cyfrifiadureg, yn trafod sut y gallai systemau deallusrwydd artiffisial ddod yn debycach i bobl ac yn llai tebyg i gyfrifiaduron, a sut y byddai'r cam hwn yn dylanwadu ar dechnoleg ddigidol yn y dyfodol. Cynhelir ei ddarlith am 11.30am ddydd Llun 30 Mai ar Lwyfan Starlight.
Ar ôl y digwyddiad: Gwyliwch sgwrs yr Athro Mark Lee ar YouTube.
Mewn digwyddiad arall, bydd Sioned Wiliam, Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth a cyn-myfyriwr drama, Comisiynydd Comedi Radio 4 (2015 - 2022)*, yn cadeirio panel yn trafod gorffennol, presennol a dyfodol sianel deledu Gymraeg S4C, sy'n dathlu 40 mlynedd o ddarlledu. Ynghyd â Phrif Weithredwr S4C Siân Doyle, caiff Sioned Wiliam gwmni unigolion amlwg o fyd teledu a gwleidyddiaeth wrth iddyn nhw olrhain heriau a llwyddiannau pedwar degawd. Cynhelir 'S4C@40: gorffennol, presennol a dyfodol y sianel deledu Gymraeg' ddydd Mercher 1 Mehefin am 11.30am ar Lwyfan Cymru – Wales Stage.
Ar ôl y digwyddiad:Gwyliwch y drafodaeth panel ar YouTube.
Yn ei darlith hi, 'Inner Workings: how we understand and imagine the inside of the human body', bydd Dr Alice Vernon o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn rhannu canfyddiadau ei hymchwil sy'n archwilio'r corff dynol trwy hanes o safbwynt ein dychymyg. Bydd Dr Vernon yn archwilio llinell amser o fythau ynglŷn â'r corff, o'r gred ganoloesol y byddai corff un a lofruddiwyd yn gwaedu'n ddigymell ym mhresenoldeb y llofrudd, i ddamcaniaethau cynllwynio sy'n gysylltiedig â brechlynnau. Bydd hefyd yn dangos sut y gall ein dychymyg gynorthwyo a llesteirio dealltwriaeth feddygol. Cynhelir darlith Dr Vernon am 7pm ddydd Sadwrn 4 Mehefin ar Lwyfan Cymru – Wales Stage.
Ar ôl y digwyddiad: Gwrandewch ar sgwrs Dr Alice Vernon yma.
Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: "Mae'n bleser parhau â'n partneriaeth â Gŵyl y Gelli, digwyddiad sy'n ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli meddyliau chwilfrydig a lle mae materion allweddol y dydd yn cael eu trin a'u trafod. Eleni rydym yn dathlu 150 mlynedd o ddysgu yn Aberystwyth. Trwy gydol y cyfnod hwn bu ein hacademyddion yn gwthio ffiniau gwybodaeth ac yn cynnal ymchwil sy'n cael effaith drawsnewidiol ar Gymru a'r byd ehangach. Rydym yn falch iawn o roi blas o'r ymchwil hynod ddiddorol ac eang a wneir yn Aberystwyth mewn tair digwyddiadau yn rhaglen Gŵyl y Gelli eleni."
Cyllidir partneriaeth Prifysgol Aberystwyth â Gŵyl y Gelli 2022 o’i grant Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Cyllidwyd ymchwil Dr Alice Vernon gan Grant Ymchwil Joy Welch.
* Wedi'i ddiweddaru: 23/05/22
Yn yr ŵyl wanwyn wyneb yn wyneb gyntaf ers 2019, bydd rhaglen Gŵyl y Gelli yn cynnwys mwy na 600 o awduron, llunwyr polisi, arloeswyr a dyfeiswyr arbennig o bob rhan o’r byd mewn sgyrsiau, perfformiadau a thrafodaethau, a bydd digwyddiadau HAYDAYS i deuluoedd yn rhoi cyfle i ddarllenwyr ifanc gwrdd â'u harwyr a bod yn greadigol.
Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ym mhrif safle'r Ŵyl ar Dairy Meadows, yn Eglwys y Santes Fair, ac yn theatr newydd yr ŵyl ar dir Castell y Gelli. Ni chodir tâl i fynd i mewn i brif safle'r Ŵyl, lle bydd amrywiaeth o atyniadau deniadol, gan gynnwys Siop Lyfrau'r Ŵyl, cwrt HAYDAYS, Gardd Wyllt, Pabell Gwneud a Chymryd, a llu o arddangoswyr, stondinau marchnad, caffis a bwytai.
I weld rhaglen lawn y digwyddiadau ewch i: www.hayfestival.com.