Menter Cymru Iwerddon newydd i hybu twristiaeth gynaliadwy
Cromlech Pentre Ifan ym mynyddoedd y Preseli, un o bedair ardal arfordirol sydd yn rhan o’r prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth.
17 Mawrth 2022
Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn arwain ar brosiect Ewropeaidd newydd i hybu twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac Iwerddon.
Bydd y prosiect newydd gwerth €3 miliwn, a gyhoeddwyd ar ddydd Sant Padrig, yn cael ei arwain gan ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dilyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Fe’i hariennir gan €2.4m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd drwy raglen Cydweithio Cymru Iwerddon.
Bydd y cynllun yn gweithredu am gyfnod o ddwy flynedd ym mynyddoedd y Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs er mwyn manteisio ar eu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol i hybu mathau cynaliadwy o dwristiaeth.
Mae’r prosiect Cymru-Iwerddon yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys: defnydd o dechnoleg i ychwanegu at brofiad ymwelwyr; creu rhwydwaith dwristiaeth a strategaeth farchnata ar y cyd; a chydweithio gydag ysgolion ac eraill i gofnodi hanesion diwylliannol lleol.
Mae’r fenter, a adnabyddir fel prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth yn anelu at ddod â budd economaidd yn ogystal. Y nod yw cynyddu niferoedd y twristiaid yn yr ardaloedd hyn o 5% ynghyd â’u gwariant, gan greu neu ehangu wyth microfenter leol.
Wrth esbonio’r gwaith, dywedodd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth: “Yn hanesyddol mae pedair ardal ucheldirol arfordirol Mynyddoedd Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs wedi bod yn ddibynnol ar ddiwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a choedwigaeth. Mae gan bob un o'r pedair ardal rywfaint o seilwaith twristiaeth yn ogystal ond, ar hyn o bryd, nid yw hyn wedi'i ddatblygu'n ddigonol, yn enwedig o'i gymharu â'r dwristiaeth dorfol sy'n digwydd ar hyd arfordiroedd Iwerddon a Chymru.
“Yng Nghymru ac Iwerddon, mae Brecsit yn debygol o gael effaith ar dwristiaeth. Fodd bynnag, yn annisgwyl, gallai Brecsit a phandemig COVID-19 annog mwy o bobl i fynd ar wyliau gartref. Mae hyn yn creu cyfleoedd i fwy o ranbarthau elwa o fathau newydd o dwristiaid domestig sydd am fynd ati i archwilio’r ardaloedd o ucheldir arfordirol llai masnachol.”
Yn arwain y prosiect yn Iwerddon mae Dr Christine Bonnin a Dr Arlene Crampsie o Ysgol Daearyddiaeth Coleg Prifysgol Dulyn. Dywedodd Dr Bonnin a Dr Crampsie: “Gan dynnu ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog yr ucheldiroedd arfordirol sy'n ffinio â Môr Iwerddon, mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i gymunedau lleol a rhanddeiliaid twristiaeth ddatblygu cynigion twristiaeth gynaliadwy, leol priodol. Gan gyfuno mentrau twristiaeth treftadaeth bresennol a newydd, bydd y prosiect yn arddangos agweddau cyffredin ac unigryw ein treftadaeth ar y cyd i gynulleidfa amrywiol o ymwelwyr, gan helpu i adeiladu twristiaeth gynaliadwy trwy ddatblygu cymunedol.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Rydym yn croesawu datblygiad prosiectau a fydd yn gwella profiad ymwelwyr yng Nghymru a hefyd yn cryfhau ein perthynas â’n cymydog Ewropeaidd agosaf, Iwerddon. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â’n strategaeth dwristiaeth trwy gefnogi ein huchelgais i dyfu twristiaeth mewn modd sydd yn gynaliadwy trwy ymestyn y tymor ac annog ymwelwyr i ddarganfod ardaloedd newydd sy’n barod ar gyfer twristiaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r tîm ar brosiect arall a fydd yn dod â’n dwy wlad yn nes at ei gilydd.”
Dywedodd Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon, Michael McGrath, TD: “Rwy’n llongyfarch y partneriaid ym mhrosiect Treftadaeth a Thwristiaeth yr Ucheldiroedd Arfordirol (CUPHAT) am eu llwyddiant wrth ddenu cymorth gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 i wella potensial twristiaeth rhai o ardaloedd mwyaf ymylol Cymru ac Iwerddon. Maent yn ardaloedd o harddwch naturiol gwych a chefndiroedd hanesyddol cryf. Bydd adeiladu ar yr adnoddau hyn trwy ddatblygu twristiaeth gynaliadwy yn helpu i ddatgloi potensial economaidd y rhanbarthau hyn nad yw wedi'i gyffwrdd. Mae prosiectau a phartneriaethau fel hyn yn symbolau pwysig o’r cydweithio parhaus rhwng Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.”
Dywedodd Kenneth Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed: “Dyma gyfle gwych i arddangos i’r byd y tirweddau ucheldirol unigryw hyn yng Nghymru ac Iwerddon. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn Aberystwyth a Dulyn.”
Mae manylion llawn am y prosiect ar gael ar y wefan Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth.