Aberystwyth yw’r orau yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

15 Gorffennaf 2021

Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Iau 15 Gorffennaf 2021.

Mae’r arolwg yn cadarnhau statws Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion Cymru am y 6ed flwyddyn yn olynol.

Yn ogystal, o’r holl brifysgolion sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion diweddaraf  The Times / Sunday Times, mae Aberystwyth yn un o’r 10 prifysgol uchaf yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, safle y mae wedi bod ynddi ers 6 mlynedd.

Mae’r Brifysgol hefyd yn parhau i berfformio yn well na chyfartaledd y sector yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, 8 pwynt canran yn uwch yn 2021 (7 pwynt canran yn 2020).

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Hoffwn ddiolch yn fawr i staff a myfyrwyr am eu hymdrechion anferthol yn ystod y flwyddyn academaidd hon, sydd wedi bod yn eithriadol ym mhob ystyr. Mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi troi pob carreg er mwyn sicrhau bod modd cynnig cymaint â phosib o sesiynau wyneb yn wyneb, gan addasu’r ffordd o ddysgu er mwyn cynnig pob cyfle i’n myfyrwyr gwrdd â’u hamcanion dysgu. Yn yr un modd, mae ein myfyrwyr wedi dangos eu parodrwydd i fod yn hyblyg mewn hinsawdd gyfnewidiol, ac ymroddiad eithriadol tuag at eu gwaith. Mae’r cyfraniadau hyn wedi eu cydnabod yng nghanlyniadau’r NSS eleni.”   

“Mae’r canlyniadau heddiw yn adlewyrchu’r amgylchiadau heriol sy’n wynebu myfyrwyr a staff fel ei gilydd dros y 18 mis diwethaf ac yn darparu gwybodaeth werthfawr i’r Brifysgol wrth i ni gadarnhau ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22. Yn naturiol, mae ein ffocws bellach yn troi tuag at y flwyddyn academaidd newydd ac rwy’n falch iawn y gallwn gynllunio ar gyfer profiad addysgol sy’n llawer agosach at yr hyn a ddarparwyd gennym cyn y pandemig.”

Mae’r arolwg hefyd yn cynnwys newyddion rhagorol i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, a ddaeth i’r brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr.

Dywedodd Sabina O'Donoghue, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Er gwaethaf un o'r blynyddoedd mwyaf cymhleth rydyn ni erioed wedi'i phrofi, rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi llwyddo i gynyddu ein hymatebion NSS cadarnhaol ac felly’r Undeb Myfyrwyr sydd â'r sgôr uchaf yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr. Llongyfarchiadau enfawr i'r Brifysgol am flwyddyn arall â sgôr uchel ac am aros yn y safle uchaf o blith holl brifysgolion Cymru.

“Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol wedi cydweithio er mwyn cadw profiad y myfyriwr wrth galon unrhyw gamau a phenderfyniadau a gymerwyd trwy gydol blwyddyn heriol. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod boddhad myfyrwyr yn parhau i fod yn uchel yn Aberystwyth ac i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru eu bywyd fel myfyrwyr.”

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol o bron i hanner miliwn o fyfyrwyr mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ar draws y DU.

Mae'r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o fesuriadau boddhad myfyrwyr.

Maent yn cynnwys ansawdd yr addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu a llais y myfyriwr.

Comisiynir yr NSS gan y Swyddfa Myfyrwyr (OfS), ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Adran Economi Gogledd Iwerddon (DfENI), a Chyngor Cyllido'r Alban (SFC), ac yn cael ei wneud yn annibynnol gan Ipsos MORI.

Agorodd arolwg y flwyddyn 2021 ar 6 Ionawr a daeth i ben ar 30 Ebrill 2021.