Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion yn dod at ei gilydd i ymchwilio i effaith pandemig COVID-19 ar Geredigion

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

27 Ebrill 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw ar fusnesau a thrigolion Ceredigion i gyfrannu at astudiaeth i effaith pandemig COVID-19 ar y sir.

Trefnwyd yr astudiaeth gan Ysgol Fusnes Aberystwyth, a bydd yn edrych ar yr effeithiau ar deuluoedd a busnesau, ac am dystiolaeth benodol sy'n cysylltu bregurswydd, tlodi a dynameg poblogaeth â'r pandemig.

Cefnogir yr astudiaeth gan Gyngor Sir Ceredigion ac mae'n cynnwys dau arolwg ar-lein, un ar gyfer busnesau a'r llall ar gyfer deiliaid tai, a bydd yn rhedeg tan ddydd Llun 7 Mehefin 2021.

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r arolwg busnes ar gael yma, a’r arolwg cartrefi yma.

Bydd canfyddiadau’r astudiaeth yn gymorth wrth asesu effeithiau a llunio polisïau yn y tymor byr a hir yng Ngheredigion er mwyn cynorthwyo'r broses adfer.

Dyluniwyd astudiaethau ledled y DU ar y pandemig i fod yn gynrychioliadol ar lefel gwlad ond nid ar lefel leol. Yr hyn sydd yn unigryw am yr astudiaeth hon yw ei bod yn canolbwyntio'n benodol ar yr effaith ar Geredigion.

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Dr Aloysius Igboekwu, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig yn Ysgol Fusnes Aberystwyth. Dywedodd: “Mae’r pandemig wedi effeithio ar fusnesau ac aelwydydd yng Ngheredigion mewn llawer o ffyrdd, ac rydym yn ceisio dealltwriaeth fanwl o'r heriau unigryw y mae'r economi leol a phobl leol yn eu hwynebu. Nod ein hymchwil yw cynnig argymhellion ar sut y gall llunwyr polisi lleol liniaru effeithiau andwyol y pandemig a dylanwadu ar bolisi ehangach mewn meysydd allweddol megis tlodi, cynaliadwyedd a gwytnwch.”

Dywedodd Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Rydym yn falch iawn o gefnogi cydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynnal yr ymchwil pwysig hwn. Bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni i gyd a dealltwriaeth fanwl o'r modd y mae trigolion a busnesau wedi eu heffeithio fel ei gilydd, a'r ffordd orau o gefnogi'r cyfnod adfer dros y tymor hwy. Byddem yn annog pawb i fynegi eu barn a chymryd rhan yn yr arolwg, p'un ai fel deiliad tŷ neu fusnes.”

Bydd y data’n cael ei ddadansoddi yn ystod yr haf a disgwylir cyhoeddi'r adroddiad terfynol tua diwedd yr haf neu yn ystod yr hydref 2021.

Y tîm yn Ysgol Fusnes Aberystwyth sy'n gweithio ar yr astudiaeth yw Dr Aloysius Igboekwu, Dr Maria Plotnikova, a Dr Sarah Lindop.