Prifysgol yn cadarnhau gohirio seremonïau graddio tan 2022

29 Mawrth 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ei bod yn gohirio ei seremonïau graddio tan y flwyddyn nesaf oherwydd sefyllfa COVID-19.

Fel digwyddiadau mawr eraill a gynlluniwyd ar gyfer yr haf, mae’r Brifysgol wedi gorfod newid ei chynlluniau graddio o ganlyniad i gyfyngiadau'r pandemig.

Yn lle cynnal seremonïau graddio ffurfiol ym mis Gorffennaf eleni, dywed y Brifysgol ei bod yn anelu at eu cynnal i fyfyrwyr a raddiodd yn 2020 a 2021 y flwyddyn nesaf yn lle.

Fe ddywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr:

“Mae disgwyl y bydd cyfyngiadau COVID-19 sylweddol yn parhau yng Nghymru am beth amser i ddod.

“Yn 2020, fe gymeron ni’r penderfyniad anodd, ond angenrheidiol i ohirio ein seremonïau graddio traddodiadol yng ngoleuni pandemig y Coronafeirws. O ystyried y pandemig a chyfyngiadau parhaus eleni, rydym mewn sefyllfa debyg iawn ac wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio ein seremonïau graddio traddodiadol yr haf hwn.

“Rydym yn sylweddoli y bydd y penderfyniad hwn yn destun siom i lawer, gan gynnwys ein myfyrwyr, ein graddedigion a’r gymuned leol ehangach.  Ein gobaith yw y bydd modd i ni ailddechrau ein seremonïau traddodiadol yn 2022, y flwyddyn pan fyddwn yn dathlu 150 mlwyddiant y Brifysgol.

“Ein bwriad yw gwahodd myfyrwyr nad ydynt wedi gallu mynychu seremonïau yn 2020 a 2021 o achos y pandemig  i ymuno â ni ar gyfer seremoni draddodiadol yn 2022.

 

Ychwanegodd yr Athro Woods:

“O ran eleni, rydym yn trafod ffyrdd eraill o nodi llwyddiannau academaidd ein myfyrwyr dros fisoedd yr haf, ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i’n myfyrwyr am y cynlluniau hynny wrth iddynt gael eu datblygu.

“Mae’r holl fyfyrwyr sy’n graddio yn haeddu clod am eu llwyddiannau, yn enwedig o ystyried heriau digynsail y pandemig byd-eang.  Fel bob tro, rydym yn ddiolchgar i bawb am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus wrth i ni i gyd addasu i’r amgylchiadau hyn, sy’n hynod heriol i ni oll.”