Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi ad-daliad ffioedd llety
Yr Athro Tim Woods
12 Ionawr 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn cynnig ad-dalu ffioedd llety i fyfyrwyr sydd ddim wedi dychwelyd i lety’r brifysgol yn y dref eleni tra bod yr addysgu ar-lein yn unig o achos y pandemig.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyngor newydd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd brynhawn Gwener diwethaf yn gofyn i fyfyrwyr aros gartref.
Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysgu, Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth:
Mae’r newid yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru yn golygu na fydd nifer o’n myfyrwyr yn aros yn llety’r Brifysgol am y tro.
Gyda hyn mewn golwg, mae’r Brifysgol wedi penderfynu y bydd modd i fyfyrwyr nad ydynt yn defnyddio eu llety Prifysgol, oherwydd y cyngor i aros gartref, wneud cais am ad-daliad 100% o’u ffi am bob wythnos nad ydynt yn defnyddio eu llety.
Bydd hyn yn weithredol o ddydd Llun 4 Ionawr eleni hyd at y dyddiad y cân nhw ddychwelyd.
Ychwanegodd Nate Pidcock, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth:
Rydym yn falch iawn yma yn UMAber o weld y penderfyniad i ad-dalu myfyrwyr am y llety pan nad yw’n cael ei ddefnyddio. Rydym yn deall bod y brifysgol wedi gorfod ymateb i gyngor y llywodraeth ar y funud olaf. Mae cyfnod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar y myfyrwyr ac mae'n wych gweld bod y brifysgol yn gwrando ar adborth y myfyrwyr.