Cefnogwyr rygbi Cymru’n ysbrydoli cerddi gan fardd o’r Brifysgol

Mae Eurig Salisbury yn gyn Fardd Plant Cymru, yn enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Eurig Salisbury yn gyn Fardd Plant Cymru, yn enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

27 Tachwedd 2020

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Lloegr yng Nghwpan y Cenhedloedd ddydd Sadwrn 28 Tachwedd 2020, mae bardd o Brifysgol Aberystwyth yn gobeithio y bydd dwy gerdd arbennig a gyfansoddodd ar gyfer gemau’r hydref yn helpu i godi calonnau cefnogwyr rygbi yn ystod cyfnod Covid-19.

Cafodd Eurig Salisbury, sy’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yn gyn-Fardd Plant Cymru, ei gomisiynu i ysgrifennu’r cerddi Ni ’da chi, bois’ ac ‘Outside, Inside, Centre’ gan gymdeithas adeiladu’r Principality, sy’n brif noddwr Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Y nod oedd dangos nad yw’r angerdd a’r ysbryd gwladgarol wedi diflannu er nad yw cefnogwyr yn cael mynychu’r gemau oherwydd cyfyngiadau pandemig y coronafeirws.

Casglwyd negeseuon o gefnogaeth gan gefnogwyr a chlybiau rygbi llawr gwlad ar draws Cymru ac fe’u defnyddiwyd yn sail ar gyfer y cerddi Cymraeg a Saesneg.

Dywedodd Eurig Salisbury, sy’n ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol: “Ymddangosodd y gair 'cartref' dro ar ôl tro mewn negeseuon gan glybiau rygbi a daeth yn hollbwysig i’r gerdd. Mae’r tân hwnnw yn ein calonnau, yr angerdd yna a’r teimlad o fod yn un, yn dal i fodoli yn ein cartrefi, yn ein hystafelloedd byw ac ym mhob cadair freichiau.

“Daeth yn amlwg imi'n go gynnar fod llawer iawn o ddelweddau addas o fyd rygbi yn y ddwy iaith fysen i'n gallu'u defnyddio mewn ffyrdd newydd yng nghyd-destun y pandemig – y gair 'blindsided', er enghraifft, i ddisgrifio'r sioc annisgwyl, a'r syniad wedyn o'r sgrym fel delwedd wych ar gyfer pobl yn dod at ei gilydd i gydweithio, a'u breichiau fel plethiadau llwy garu. A'r peth mwyaf chwithig wedyn, y ffaith fod rygbi'n gêm gwbl gorfforol lle mae cyffwrdd yn hanfodol, a ninnau i gyd yn gorfod osgoi hynny mor aml y dyddiau hyn. Yn hynny o beth, ro'n i'n teimlo bod gwylio rygbi, a chyd-fyw'r ergydion a'r chwarae o'n cartrefi, yn gallu lliniaru rhywfaint ar y rhwystredigaeth yna.”

Mae’r cerddi wedi’u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ar ffurf dwy ffilm fer, gyda’r geiriau’n cael eu llefaru gan y gantores a’r ddarlledwraig Cerys Matthews.

Ym Mharc y Scarlets yn Llanelli y mae Cymru wedi bod yn chwarae ei gemau cartref yng Nghwpan y Cenhedloedd ar ôl i Stadiwm y Principality gael ei thrawsnewid yn ysbyty brys yn ystod anterth argyfwng Covid-19.

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Er ein bod yn mwynhau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref o’n cartrefi eleni, yn hytrach na chartref rygbi Cymru, ein gobaith yw y bydd ein cerddi yn uno cefnogwyr rygbi ac yn dangos i’r tîm cenedlaethol bod y wlad gyfan yn eu cefnogi. Mae wedi bod yn flwyddyn galed i glybiau rygbi ledled Cymru, ond mae’r gemau rhyngwladol yn achlysuron y mae cefnogwyr rygbi yn edrych ymlaen atyn nhw bob amser, ac rydyn ni’n gwybod y bydd eleni’r un fath yn union.”

Ni ‘da chi, bois

’Welodd neb hyn yn dod. Pawb yn codi
Eu llygaid yn un haid ac yn oedi,
A thân hawdd ein hafiaith ni – a’i wres braf
Yn gwanhau’n araf, ac yna’n oeri.

Beth yw stadiwm, dwed, heb dorf unedig,
A gwres ein ffwrnes heb ddau dîm ffyrnig?
Beth yw lle mewn pandemig? Beth yw cae
Heb arno chwarae, ond brwyn a cherrig?

Y stadiwm hon, mor astud ei meini,
Yw caer y tair coron, cartre’r cewri,
Lle tân o hafan oedd hi – ein draig flwydd,
Ein pryd o danwydd, ein pair dadeni.

Am heddiw, felly, oes modd, efallai,
Aileni’r dadeni gynt a daniai,
Na, nid mewn torf, ond mewn tai – bach di-sôn
O Nedd i Fôn, o Gaerdydd i Fenai?

Dewch, canwn, a chodwn y to chydig,
Moriwn ein nodau dros Gymru unedig,
Ac fel parêd berwedig – trown bob rhes
O dai yn ffwrnes o danau ffyrnig.

Os heddiw ffans hawdd a hoff o’n seddau
Yn mwynhau annog yn wir ŷm ninnau,
Heb angen trin pengliniau – na chlymu
Asennau’n glasu na hen, hen gleisiau,

Fe wnawn ein rhan o’r cefn, er hynny,
A byw pob sgarmes, a’r lolfa’n c’nesu,
Fel mewn sgrym, sgwyddau’n crymu – a thynhau,
A’n holl gyhyrau fel pleth llwy garu.

A dyma wres ein neges ni – ein tân
I’r tîm o’n cartrefi:
Safwn a chanwn ’da chi
Yn y leinyp eleni.

Dewch, bob un: ni ’da chi, bois.

Eurig Salisbury