Gwyddonwyr i helpu i ragweld bygythiadau tywydd y gofod
Credyd llun: NASA/SDO, gyda gwaith prosesu’r ddelwedd gan Dr Huw Morgan, Prifysgol Aberystwyth
06 Tachwedd 2020
Mae gwyddonwyr yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain prosiect newydd i wella gallu'r Swyddfa Dywydd i ddarogan tywydd y gofod a’r aflonyddu posibl ar weithgareddau ar y Ddaear all ddod yn ei sgil.
Gall stormydd uwchlaw wyneb yr Haul achosi niwed mawr i'n heconomi, gan effeithio ar loerennau, cyfathrebiadau radio, gridiau pŵer a llwybrau hedfan awyrennau.
O gael rhybudd ymlaen llaw, fodd bynnag, gellir cymryd camau i liniaru ar effaith stormydd sy'n ffrwydro o'r Haul gan daro maes magnetig y Ddaear.
Mae gan y Swyddfa Dywydd uned arbennig i fonitro tywydd y gofod ers 2014 a’u bwriad nawr yw uwchraddio ei systemau.
Comisiynwyd tîm o wyddonwyr - dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth ac mewn cydweithrediad â phrifysgolion Durham, Northumbria a Reading - i adeiladu system well ar gyfer rhagweld stormydd solar.
Teitl y prosiect yw Pecyn Ensemble Empeiraidd Tywydd y Gofod (SWEEP) a bydd yn para dwy flynedd a hanner. Fe’i harweinir gan Dr Huw Morgan, Pennaeth Ffiseg Cysawd yr Haul yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Mae awyrgylch yr Haul yn llifo i mewn i’r gofod rhwng planedau fel gwynt solar. Mae echdoriadau solar yn achosi amrywiadau mawr yn y llif yma ac mae hyn yn gallu aflonyddu’n sylweddol ar gymdeithas, yn enwedig o ystyried ein dibyniaeth gynyddol ar dechnoleg, o gyfathrebu drwy ffonau symudol i gyflenwadau trydan a theithio yn y gofod," eglurodd Dr Morgan.
"O gael rhybudd ymlaen llaw am dywydd garw yn y gofod, gellir lleihau ar y tarfu sy’n cael ei achosi gan echdoriadau a fflachiadau solar. Prif ddiben y prosiect felly yw gwella'r system rybuddio yma drwy broffwydo mwy cywir a chydnerth er mwyn helpu i ddiogelu cymdeithas rhag bygythiadau tywydd y gofod."
Dywedodd Simon Machin, Rheolwr Rhaglen Tywydd y Gofod y Swyddfa Dywydd: "Mae deall nodweddion stormydd solar, gwella ein gallu darogan a lliniaru ar eu heffeithiau yma ar y Ddaear, yn hanfodol er mwyn cynnal ystod o dechnolegau cyfoes yr ydym yn dibynnu arnynt. Mae’r cyfle i gweithio gyda thîm SWEEP i dynnu rhagoriaeth wyddonol y DU i mewn i wasanaethau gweithredol a fydd yn sicrhau newid sylweddol yn ein gallu cenedlaethol yn un cyffrous."
Gall fflachiadau a ffrwydradau grymus o atmosffer neu ‘corona’ yr Haul ddigwydd yn aml - sawl gwaith y dydd ar adegau.
Fodd bynnag, dim ond nifer fach o'r rhain sy'n digwydd ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn i effeithio ar y Ddaear, ac nid yw pob un yn cael effaith ar ein planed.
Dywedodd yr Athro Matthew Owens o'r Adran Meteoroleg ym Mhrifysgol Reading: "Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i gydosod ein modelau ymchwil unigol at ei gilydd i gynhyrchu system rhagolwg newydd ar gyfer system tywydd y gofod cyfan. Mae bob amser yn gyffrous gweld eich gwyddoniaeth yn cael ei ddefnyddio er budd cymdeithasol."
Dywedodd yr Athro Anthony Yeates o Adran y Gwyddorau Mathemategol ym Mhrifysgol Durham: "Mae prosiect SWEEP yn dibynnu ar ein modelau cyfrifiadurol, ond mae'r rhain yn eu tro yn dibynnu ar ddata mewnbwn o ansawdd uchel. Yn ffodus, gallwn fanteisio ar arsylwadau cyfoes parhaus o’r Haul a ddaw o delesgopau lloeren, wedi'u hategu gan arsyllfeydd ar y ddaear."
Dywedodd Dr Shaun Bloomfield o'r Adran Mathemateg, Ffiseg a Pheirianneg Drydanol ym Mhrifysgol Northumbria: "Un o gryfderau mawr prosiect SWEEP yw nad yw'n canolbwyntio ar dywydd y gofod yn ystod cyfnodau tawel neu yn ystod stormydd yn unig, ond yn pontio’n ddi-dor o un sefyllfa i'r llall. Bydd hyn yn helpu daroganwyr Swyddfa Dywydd i ddeall y rhagolygon tymor hwy yn ystod cyfnodau tawel yn ogystal â'r effeithiau tymor byrrach pan fydd amodau'n gwaethygu oherwydd gweithgarwch solar."
Mae amlder stormydd yn dilyn cylch magnetig yr Haul, ac yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt bob 11-12 mlynedd.
Y storm solar gryfaf i’w chofnodi erioed oedd Digwyddiad Carrington yn 1859 a effeithiodd ar y system telegraff fyd-eang ac a greodd awrora ar draws y byd.
Yn 1989, fe gollwyd y cyflenwad trydan yn gyfan gwbl yn Quebec yng Nghanada yn sgil storm solar fawr ac yn 2003, cafwyd nifer o broblemau lloeren yn ystod y 'Stormydd Calan Gaeaf' fel y'u gelwid.
Disgwylir y cyfnod nesaf o weithgarwch solar dwys rhwng 2023 a 2026.